Penodwyd Kevin yn 2008 ac mae’n gyfrifol am gyfarwyddo gweithgareddau’r Ombwdsmon. Astudiodd y gyfraith yn y brifysgol am dair blynedd a graddiodd gydag anrhydedd, cyn astudio i fod yn fargyfreithiwr yn Llundain yn Ysgol y Gyfraith Ysbytai’r Brawdlys. Fe’i galwyd i’r Bar gan Anrhydeddus Gymdeithas y Deml Fewnol ar ôl llwyddo yn ei arholiadau bargyfreithiwr. Mae ganddo hefyd gymhwyster proffesiynol Sefydliad Siartredig y Cymrodeddwyr (CIArb). Ar ôl gwasanaethu am gyfnod o bedair blynedd rhwng 2015 a 2019, yn 2021 ail-etholwyd Kevin i Fwrdd Cyfarwyddwyr Cymdeithas yr Ombwdsmon, sef corff sy’n cynghori’r llywodraeth ac yn helpu i oruchwylio sefyllfa’r ombwdsmyn a thrin chwynion ar draws y DU, Iwerddon, Tiriogaethau Tramor Prydeinig a Thiriogaethau Dibynnol y Goron. Ym mis Tachwedd 2018, gwahoddwyd Kevin i ymuno â Bwrdd yr Ymddiriedolwyr Cyngor ar Bopeth yn Stevenage.
Mae gan Kevin ddau gyfrifoldeb – mae’n gwasanaethu hefyd (ers 1 Ionawr 2022) fel Prif Ombwdsmon yr Ombwdsmon Pêl-droed Annibynnol (“IFO”), cynllun a sefydlwyd gan yr awdurdodau pêl-droed (Y Gymdeithas Bêl-droed, yr Uwch Gynghrair, a’r Gynghrair Bêl-droed) i dderbyn a dyfarnu ar gwynion nad ydynt wedi’u datrys yn gynharach. Cyn y penodiad hwn, roedd Kevin yn aelod o Fwrdd Cynghori’r Ombwdsmon Pêl-droed Annibynnol rhwng 2015 a 2021 lle bu’n cynghori ei ragflaenydd ar achosion ym maes pêl-droed a’r gweithdrefnau ar gyfer datrys anghydfodau.
Mae gan Kevin ddiddordeb brwd mewn materion defnyddwyr ac mae wedi ymddangos sawl gwaith ar y teledu, radio ac yn y wasg i roi barn arbenigol ar ystod o faterion sy’n effeithio ar ddefnyddwyr. Mae ganddo ddealltwriaeth arbenigol o gyfraith defnyddwyr ac mae wedi ysgrifennu a chyflwyno cyfres o gyrsiau a seminarau achrededig yn y maes hwn.
Cyn dod i’w swydd bresennol cyflogwyd Kevin am ddwy flynedd fel cwnsler cyfreithiol mewnol mewn busnes ardystio a phrofi byd-eang. Yn 2005, roedd yn rhan o’r tîm o gynghorwyr a sefydlodd Glinig y Gyfraith Prifysgol Hertfordshire, canolfan gyngor cyfreithiol pro bono a wasanaethodd y gymuned leol. Mae gyrfa flaenorol Kevin yn cynnwys swyddi nad oeddent yn ymwneud â’r gyfraith na datrys anghydfodau – mewn manwerthu, y diwydiant ariannol ac ym maes gemau ar-lein.
Kevin a’i gydweithiwr, y Dirprwy Brif Ombwdsmon Judith Turner, yw cyd-awduron Cyfrol 28 o ‘Atkin’s Court Forms and Precedents on Ombudsman schemes in England and Wales’. Fe’i cyhoeddwyd gan LexisNexis yn 2020, ac mae’n rhan o unig wyddoniaduron y DU o ffurflenni, cynseiliau a gweithdrefnau ymgyfreitha sifil ac mae’n awdurdod blaenllaw ar y broses y dylid ei dilyn.