Darparwyr gwasanaeth sy’n cymryd rhan yn ein cynllun
Cyn y gallwn helpu, rhaid rhoi cyfle i’r darparwr gwasanaeth ddatrys y gŵyn cyn y daw atom ni. Mae gan bob darparwr gwasanaeth weithdrefn ymdrin â chwynion sy’n nodi’r broses y dylech ei dilyn os oes gennych gŵyn ynghylch unrhyw agwedd ar ei wasanaeth. I weld gweithdrefn ymdrin â chwynion, cliciwch ar logo’r darparwr gwasanaeth.
Nodwch na allwn ymchwilio i’ch cwyn ond os yw’r darparwr gwasanaeth yn rhan o’n cynllun – gallwch wirio hynny isod. Os nad yw’ch cwyn ynghylch darparwr gwasanaeth sy’n cymryd rhan yn ein cynllun, mae’n bosibl y byddwn yn gallu rhoi gwybod ichi ble y gallwch fynd â hi nesaf. Er enghraifft, gallech fynd at un o gyrff gwarchod y diwydiant – fel Transport Focus neu London Travel Watch.
Nodwch
* Mae Network Rail yn rhan o’r gwasanaeth mewn perthynas â’r gorsafoedd mae’n eu rheoli.
Os nad ydych yn siŵr ynghylch pwy mae’ch cwyn, cysylltwch â’r darparwr gwasanaeth y teithiasoch gydag ef (neu yr ydych yn meddwl y gallai’ch cwyn fod yn ei gylch) ac fe ddylai allu helpu i’ch cyfeirio.