Gwneud cwyn

Rydym yn annibynnol ac nid ydym yn cymryd ochr. Rydym yn ymchwilio’n deg ac yn edrych ar y dystiolaeth a roddir inni i’ch helpu i gael datrysiad.

Sut allwn ni helpu?

Os yw’ch cwyn yn rhywbeth y gallwn edrych arno, byddwn yn ymchwilio ac yn edrych ar y dystiolaeth a roddir inni. Byddwn yn ystyried y ddwy ochr er mwyn sicrhau canlyniad teg. Os oes modd, byddwn yn ceisio dod o hyd i ateb y gall yr holl bartïon gytuno arno, ond os nad yw hyn yn digwydd, byddwn yn gwneud penderfyniad ar sail y dystiolaeth a gawn.

Os na allwn ymdrin â’ch cwyn, byddwn yn dweud wrthych pam na allwn wneud hynny. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod ichi ble gallwch fynd â hi nesaf.

Pryd i gysylltu â ni

Mae’n bwysig rhoi amser i’r darparwr gwasanaeth unioni’r sefyllfa. Dyna pam na allwn adolygu’ch cwyn ond ar ôl ichi roi 40 diwrnod gwaith i’r darparwr gwasanaeth geisio ei datrys neu os ydych wedi cael llythyr “methiant i gytuno” oddi wrtho sy’n golygu na all fynd â’ch cwyn ymhellach.

Nodwch fod yn rhaid i gwynion gael eu codi gyda ni cyn pen 12 mis ar ôl unrhyw ateb terfynol oddi wrth y darparwr gwasanaeth (gallai’r ateb terfynol fod yn llythyr methiant i gytuno neu’r tro olaf y cawsoch ohebiaeth oddi wrtho).

Cael gwybod mwy am sut i ddechrau cwyn a sut mae ein proses yn gweithio.

Yn aml mae cwsmeriaid yn gofyn

I wneud cwyn gyda ni, rhaid ichi fod yn 16 oed neu’n hŷn. Os ydych chi’n iau nag 16 oed, peidiwch â phoeni – gallwch wneud cwyn o hyd os oes gennych gynrychiolydd sy’n 16 oed neu’n hŷn.

Gallwn ystyried eich cwyn dim ond os yw yn erbyn darparwr gwasanaeth sy’n rhan o’n cynllun.

Wrth gwrs. Os hoffech gael help gyda’ch cwyn, gallwch drefnu i rywun eich cynorthwyo, er enghraifft, aelod o’r teulu, ffrind neu gynrychiolydd arall. Ar yr amod bod eich cynrychiolydd yn 16 oed neu’n hŷn ac wedi cytuno i helpu, rydym yn fodlon ichi gymryd y camau mae arnoch eu hangen i’ch helpu i gyflwyno’ch achos gorau inni.

Does dim angen cyfreithiwr neu gynghorydd cyfreithiol arnoch i wneud cwyn inni. Fodd bynnag, os ydych eisiau gwneud hynny, wrth gwrs, fe allwch.

Byddwn yn rhoi gwybod ichi’n rheolaidd sut mae pethau’n mynd. Fodd bynnag, os ydych wedi gwneud cwyn gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein, gallwch weld eich cwyn trwy fewngofnodi gan ddefnyddio’r ddolen o’n gwefan. Mae hyn yn caniatáu ichi dracio cynnydd eich achos o’r dechrau i’r diwedd.

Os oes gennych chi gŵyn ynghylch darparwr gwasanaeth sy’n cymryd rhan yn ein cynllun ac nad ydych wedi gallu ei datrys gydag ef, yna mae’n bosibl y gallwn eich helpu.

I gael gwybod sut i ddechrau cwyn neu i fynd at gŵyn sy’n bodoli eisoes, cliciwch ar y botwm ‘Cwyno’ isod.

© Hawlfraint - Dispute Resolution Ombudsman
Cyfeiriad cofrestredig: Richmond House, Walkern Road, Stevenage, Hertfordshire, SG1 3QP. Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr, Rhif Cwmni 08945616.