Allwn ni helpu gyda’ch cwyn?

Pa fath o gwynion ydym ni’n ymdrin â nhw?

Cewch ddod atom ni gydag unrhyw gŵyn sydd heb ei datrys ynghylch un o’r Darparwyr Gwasanaethau sy’n cymryd rhan yn ein cynllun os yw’n bodloni ein Rhestr Wirio Cymhwysedd. Byddwn yn adolygu’ch cwyn ac yn penderfynu a yw’n rhywbeth y gallwn ninnau ymchwilio iddo, neu’n rhywbeth mae angen i sefydliad arall ymdrin ag ef.

Ein rôl ni yw ymchwilio i ansawdd y gwasanaeth a ddarparwyd ar sail eich hawliau fel defnyddiwr. Ni allwn ymchwilio i bolisïau neu reoliadau ehangach y diwydiant rheilffyrdd.

Os ydym ni’n credu nad yw’ch cwyn yn rhywbeth y gallwn ymchwilio iddo – byddwn yn esbonio’n glir pam. Byddwn hefyd, lle bo modd, yn awgrymu opsiynau gwahanol sydd ar gael neu’n trosglwyddo’ch cwyn i sefydliad arall a all, o bosibl, eich helpu ymhellach, fel Transport Focus neu London TravelWatch – y cyrff gwarchod annibynnol i’r diwydiant rheilffyrdd. Byddan nhw’n adolygu’ch cwyn yn annibynnol a, lle bo’n briodol, yn mynd ar ôl y mater ymhellach ar eich rhan.

I gael mwy o wybodaeth am y mathau o gwynion y gallwn ymchwilio iddyn nhw, trowch at ein tudalen Cwestiynau Cyffredin ac Adnoddau

Rhestr Wirio Cymhwysedd

  • Mae’n rhaid bod eich cwyn ynghylch darparwr gwasanaeth sy’n cymryd rhan yn ein cynllun

  • Mae’n rhaid eich bod yn 16 oed neu’n hŷn neu fod gennych gynrychiolydd sy’n 16 oed neu’n hŷn

  • Mae’n rhaid bod 40 diwrnod gwaith wedi mynd heibio ers ichi gwyno gyntaf i’r darparwr gwasanaeth neu mae’n rhaid eich bod wedi cael llythyr “methiant i gytuno”

  • Mae’n rhaid bod eich cwyn i’r darparwr gwasanaeth wedi cael ei chodi o fewn y 12 mis diwethaf

Os oes gennych gŵyn ynghylch ddarparwyr gwasanaethau sy’n cymeryd rhan yn ein cynllun ac nad ydych wedi gallu ei datrys gydag ef, mae’n bosibl y gallwn eich helpu.

I gael gwybod sut i ddechrau cwyn neu i gyrchu cwyn sy’n bodoli eisoes, cliciwch ar y botwm ‘Cwyno’ isod.