Beth sy’n digwydd ar ôl ein proses ni?

Beth sy’n digwydd os ydw i’n cytuno â phenderfyniad yr Ombwdsmon?

Os ydych chi’n cytuno â’n penderfyniad, mae gennych 20 diwrnod gwaith i’w dderbyn, neu bydd yn dod i ben. Os ydych chi’n derbyn ein penderfyniad, bydd hyn yn rhwymo’r darparwr gwasanaeth ac mae’n rhaid iddo gydymffurfio â’n penderfyniad ni cyn pen 20 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad yr ydych yn ei dderbyn (os ydych wedi rhoi unrhyw fanylion mae eu hangen er mwyn iddo gydymffurfio). Os yw’r penderfyniad yn cynnwys ad-daliad, dylai’r darparwr gwasanaeth gwblhau’r ad-daliad cyn pen 14 diwrnod ar ôl ichi ei dderbyn (os ydych wedi rhoi’r manylion angenrheidiol fel y gellir gwneud taliad).

Os hoffech dderbyn cynnig y darparwr gwasanaeth, dylech gysylltu â’r darparwr gwasanaeth yn uniongyrchol neu â’n Tîm Ôl-ofal ar aftercare@railombudsman.org i roi gwybod iddynt eich bod yn ei dderbyn.

Rhoddir gwybod i’r darparwr gwasanaeth bod unrhyw benderfyniad wedi’i dderbyn a gofynnir iddo gysylltu â chi’n uniongyrchol ynghylch hyn.

Beth os yw’n well gennyf gynnig blaenorol y darparwr gwasanaeth na phenderfyniad yr Ombwdsmon?

Os yw penderfyniad yr Ombwdsmon yn wahanol i’r hyn a gynigiwyd o’r blaen gan y darparwr gwasanaeth, mae’n bosibl na fyddwch yn gallu dibynnu ar gynnig blaenorol oedd yn well. Nid oes rhwymedigaeth ar y darparwr gwasanaeth i gadw at y cynnig gwreiddiol, ac mae’n bosibl y bydd y cynnig gwell yn cael ei dynnu’n ôl.

Beth os nad wyf yn cytuno â phenderfyniad yr Ombwdsmon?

Rydym yn ceisio bod yn deg ac yn rhesymol bob amser. Fodd bynnag, efallai y byddwch yn anghytuno â ni. Mae perffaith hawl gennych i wneud hynny. Fodd bynnag, unwaith mae penderfyniad wedi cael ei wneud, ni ellir apelio yn ei erbyn, ac mae’r achos wedi’i gau. Mae hyn yn golygu na fyddwn yn gallu cymryd rhagor o gamau ynghylch eich cwyn, ond rydych yn dal i fod yn rhydd i fynd â hi ymhellach mewn ffyrdd eraill, er enghraifft, cymryd camau cyfreithiol trwy’r llys.

Beth os wyf wedi derbyn ac nad wyf yn clywed gan y darparwr gwasanaeth?

Bydd yr Ombwdsmon Rheilffyrdd yn gallu dilyn y mater i fyny ar ôl i’r darparwr gwasanaeth gael cyfle rhesymol i drefnu hyn gyda chi. Gofynnwn ichi ganiatáu 20 diwrnod gwaith i’r darparwr gwasanaeth brosesu’ch setliad (neu 10 diwrnod gwaith os ydych chi’n aros am ad-daliad). Os nad ydych yn clywed oddi wrtho neu os nad ydych wedi cael eich setliad ar ôl y cyfnod hwn, anfonwch neges e-bost at aftercare@railombudsman.org .