Hygyrchedd i’r Ombwdsmon Rheilffyrdd

Mae ein gwybodaeth ar gael yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Rydym hefyd yn croesawu ymholiadau, cwynion a cheisiadau mewn gwahanol fformatau. Dywedwch wrthym beth sydd ei angen arnoch, a byddwn yn darparu’r wybodaeth cyn gynted â phosibl.  Gall hyn gynnwys y canlynol:

  • Braille
  • Print bras
  • Sgwrs lafar / ar y ffôn
  • Fformat Hawdd ei Ddarllen
  • Fformat digidol neu gopi caled
  • Papur lliw neu liwiau cyferbyniol
  • Galwad fideo (yn ystod cyfryngu yn unig)
  • Iaith Arwyddion Prydain
  • Cyfieithiad i’r Gymraeg