Camau i’w cymryd cyn dechrau cwyn

I’n cynorthwyo i’ch helpu chi, dylech gymryd y camau canlynol cyn dechrau cwyn:

  • Cysylltwch â’r Darparwr Gwasanaeth

    Rhowch wybod i’r darparwr gwasanaeth am eich cwyn, esboniwch beth rydych chi’n anfodlon arno a dywedwch yn glir beth hoffech iddo gael ei wneud i unioni’r sefyllfa.

  • Ceisiwch ddatrys eich cwyn gyda’r Darparwr Gwasanaeth

    Os gallwch ddatrys eich cwyn gyda’r darparwr gwasanaeth yn uniongyrchol, mae’n bosibl y bydd hyn yn gynt ac yn haws i’r ddwy ochr. I’ch helpu i ddatrys y gŵyn: peidiwch â chynhyrfu ond byddwch yn bendant, rhowch gyfle i’r darparwr gwasanaeth ymateb a lle bynnag y bo modd, rhowch unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth a allai’ch helpu i symud ymlaen.

    Ceisiwch ddatrys eich cwyn gyda’r Darparwr Gwasanaeth

  • Casglwch dystiolaeth

    Gwnewch nodyn o ddyddiadau allweddol, dogfennau ac unrhyw gysylltiad rydych wedi’i gael gyda’r darparwr gwasanaeth. Gallech ystyried cael ffeil a chadw negeseuon e-bost a llythyrau. Gellid defnyddio hon fel tystiolaeth os dewch â’r gŵyn atom ni. I gael rhagor o arweiniad ar y mathau o dystiolaeth y gallech eu darparu, edrychwch ar ein Canllaw i Ddefnyddwyr.

  • Cwblhewch ein Rhestr Wirio Cymhwysedd

    Cwblhewch ein Rhestr Wirio Cymhwysedd

  • Dechrau cwyn

    Os ydych chi’n dal i fod yn anfodlon ac rydych wedi cymryd y camau uchod, mae’n bosibl y byddwch eisiau cysylltu â ni i ddechrau cwyn.

I ddechrau cwyn neu i gyrchu cwyn sy’n bodoli eisoes, cliciwch ar y botwm isod i gael gwybod mwy.