Dechrau cwyn

Cyn dechrau cwyn, dylech ddilyn y ‘Camau i’w cymryd cyn dechrau cwyn’ – ewch i’r dudalen trwy glicio yma.

Y ffordd gyflymaf i ddechrau cwyn yw llenwi ein ffurflen ar-lein. Mae hyn yn caniatáu ichi:

LLENWI’R FFURFLEN GAIS YN HAWDD AR EIN PORTH

CADW’CH CAIS A DOD YN ÔL ATO PAN FO’N GYFLEUS I CHI

LANLWYTHO DOGFENNAU A FFOTOGRAFFAU I GEFNOGI’CH ACHOS

GADAEL NEGESEUON AR EICH ACHOS

TRACIO A GWELD DIWEDDARIADAU AR EICH ACHOS

I roi cychwyn arni, cliciwch ar y botwm ‘Dechrau cwyn’ isod.

Os yw’n well gennych, gallwch lenwi ffurflen gais bapur a’i hanfon yn ôl atom trwy e-bost neu’r post. Gallwch lawrlwytho copi yma, neu cysylltwch â ni os oes angen inni anfon y ffurflen atoch, neu i godi cwyn drwy sianeli hygyrch eraill.

I gael gwybod mwy, ewch i’r adran Cwestiynau Cyffredin ac Adnoddau.

I gwsmeriaid sy’n dod yn ôl, i gyrchu’ch cwyn sy’n bodoli eisoes, cliciwch isod

Deallwn y gall rheoli’ch cwyn eich gadael yn ddig neu’n rhwystredig, ond gofynnwn ichi fod yn gwrtais ac yn ystyriol wrth ymwneud â ni. Ni fyddwn yn goddef cam-drin ein cydweithwyr – maen nhw yma i’ch helpu i ddatrys eich cwyn.

Yn aml mae cwsmeriaid yn gofyn

Does dim rhaid ichi fwrw ymlaen â chwyn os nad ydych eisiau gwneud. Os penderfynwch nad ydych eisiau mynd â hi ymhellach, does dim problem. Rhowch wybod inni ac fe gaewn yr achos.

Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod ein gwasanaeth yn syml ac yn hawdd ei ddefnyddio, beth bynnag fo’ch anghenion. Mae gwybodaeth am ein gwasanaeth ar gael yn y fformatau canlynol:

  • print bras;
  • Braille;
  • hawdd ei ddeall; a
  • sain

Gallwn hefyd roi gwybod ichi sut i gwyno wrthym ni os oes arnoch angen gwasanaethau cyfieithu neu Iaith Arwyddion Prydain. Dim ond eisiau gofyn sydd.

Yn naturiol, rydym eisiau gwneud penderfyniadau mor gyflym ag sy’n bosibl. Wrth gwrs, mae hyn yn dibynnu pa mor gymhleth yw’ch cwyn. Ein nod yw cwblhau pob achos cyn pen 40 diwrnod gwaith – er na ddylai’r rhan fwyaf gymryd mor hir â hyn. Byddwn yn rhoi gwybod ichi yn rheolaidd sut mae pethau’n mynd.

Adborth

Ydych chi wedi cael gwasanaeth gwych gan aelod o’n staff? Oes gennych chi awgrym ynghylch sut y gallem wella ein gwasanaeth?

Mae’n bwysig inni wybod pan rydym wedi gwneud gwaith da ac mae’n ein helpu ni i wella pan nad aiff pethau yn unol â’r disgwyl.

Gofynnwn ichi gysylltu â ni i roi adborth.