Polisi’r Cyfryngau Cymdeithasol

Polisi’r Cyfryngau Cymdeithasol

Mae’r Ombwdsmon Rheilffyrdd yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gyrraedd cynulleidfaoedd ar-lein ac i rannu gwybodaeth am ein gwasanaeth gyda defnyddwyr a rhanddeiliaid eraill.

Rheolir ein cyfrif X (@RailOmbudsman) gan staff cyfathrebu’r Ombwdsmon Rheilffyrdd. Rydym yn diweddaru ac yn monitro ein cyfrif X yn ystod oriau gwaith arferol (dydd Llun – dydd Gwener 0900 – 1700).

Mae’n bosibl y gallem fonitro neu ymateb i’r cyfrif tu allan i’r oriau hyn ar brydiau. Rydym yn darllen yr holl @ymatebion a’r Negeseuon Uniongyrchol (DM) a anfonir atom, a byddwn yn ymateb i gynifer ohonynt â phosibl.

Gallem ddefnyddio platfformau’r cyfryngau cymdeithasol i:

  • siarad am y gwaith a wnawn gyda’n darparwyr gwasanaeth i godi safonau’r diwydiant
  • cyrraedd cynulleidfa ehangach
  • hyrwyddo digwyddiadau, eitemau newyddion a deunyddiau darllen tebyg eraill
  • dysgu am ddefnyddwyr a’u hanghenion
  • trosglwyddo gwybodaeth berthnasol gan drydydd partïon.

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ategu gwefan yr Ombwdsmon Rheilffyrdd a phan fo modd, byddant yn cyfeirio defnyddwyr yn ôl at y wefan i gael gwybodaeth fanwl, ffurflenni a dogfennau eraill. Ni fyddwn yn trafod cwynion yn uniongyrchol ar y cyfryngau cymdeithasol a byddwn yn osgoi uwchgyfeirio achos yn gyhoeddus. Dylai ein cysylltiadau fod yn eglur ac yn hawdd i’w deall.

Efallai y byddwn yn aildrydar dolenni a chynnwys yr ystyriwn eu bod yn berthnasol i’n gwaith ac o ddiddordeb i’n dilynwyr. Nid yw aildrydariad yn golygu bod yr Ombwdsmon Rheilffyrdd yn ei gymeradwyo. Rhoddir dolenni at safleoedd allanol er cyfleustra a diddordeb y defnyddiwr yn unig. Nid yw’r Ombwdsmon Rheilffyrdd yn gyfrifol am gywirdeb y wybodaeth ar y safleoedd hynny, nac ychwaith yn cymeradwyo’r safleoedd na’u cynnwys.

Dilynwn gyfrifon X sy’n berthnasol i’n gwaith. Gallai hyn gynnwys cyfrifon X unigolion, yn ogystal a sefydliadau, cyhoeddus a phreifat. Nid yw ein penderfyniad ni i ddilyn defnyddiwr X penodol yn golygu ein bod yn ei gymeradwyo ac nid yw’n golygu bod yr Ombwdsmon Rheilffyrdd yn cefnogi’r defnyddiwr hwnnw na’i farn.

Rydym yn croesawu ac yn annog unrhyw sylwadau ac yn disgwyl y caiff sgyrsiau eu cynnal mewn ffordd barchus. Dylech osgoi ymosodiadau personol a chadwch eich sylwadau’n berthnasol. Nid yw’r Ombwdsmon Rheilffyrdd yn goddef sylwadau ymosodol, amharchus neu ddifrïol am unigolyn, ein sefydliad nac un o’r Darparwyr Gwasanaeth. Byddwn yn darllen yr holl ymatebion a negeseuon uniongyrchol a anfonir atom ac yn ymateb iddynt pan fo modd. Rydym yn cadw’r hawl i gyfyngu ar, neu dynnu ymaith, unrhyw gynnwys yr ystyrir ei fod yn torri’r polisi cyfryngau cymdeithasol hwn neu unrhyw gyfraith gymwys megis deddfwriaeth diogelu data.

Ni chaniateir:

  • iaith ddifrïol, anweddus neu ymosodol
  • sylwadau neu gyhuddiadau difenwol neu gas, neu sy’n aflonyddu, yn erbyn unigolion neu sefydliadau
  • sylwadau sy’n gwahaniaethu ar sail hil, tarddiad cenedlaethol neu ethnig, oed, credo, rhywedd, statws priodasol, statws economaidd gymdeithasol, anabledd corfforol neu feddyliol neu gyfeiriadedd rhywiol
  • cynnwys rhywiol neu ddolenni at gynnwys rhywiol
  • sylwadau sy’n cynnwys deisyfiadau, hysbysebion, cyhoeddiadau, neu gymeradwyaeth o unrhyw sefydliad masnachol, ariannol, llafur neu wleidyddol
  • gormodedd o ddolenni a chod
  • postiadau sy’n rhoi gormod o wybodaeth bersonol
  • cynnwys sy’n torri budd perchnogaeth gyfreithiol unrhyw barti arall
  • postiadau nad ydynt yn perthyn yn bynciol i’r safle neu’r deunydd y gwneir sylwadau amdano
  • postiadau sy’n ailadrodd neu a ystyrir yn sbam, megis yr un sylw’n cael ei bostio dro ar ôl tro.

In cases where a user needs to go through the internal procedures of one of the Service Providers before contacting us, we will refer that user to the relevant Service Provider.

Those who choose to engage with the Rail Ombudsman on social media should be aware that they are doing so publicly. In order to protect your privacy, and that of others, we recommend that you do not include personal information in your posts.

If a user engages with the Rail Ombudsman in Welsh on social media, translation services will be used on an ad hoc basis.

Some Rail Ombudsman staff tweet under their own names, as private citizens. Although they have professional links with the Rail Ombudsman, their tweets and retweets do not represent the official position of the Rail Ombudsman.

The personal information you provide to the Rail Ombudsman on social media is collected, used and disclosed by our office for its mandated purpose and in accordance with our data retention policy.

X accounts are housed by a third party and not the Rail Ombudsman. You should read X’s terms of service and privacy policy before using it.

If you have any questions or comments about our use of social media, please contact our office by emailing info@railombudsman.org