Polisi’r Cyfryngau Cymdeithasol
Mae’r Ombwdsmon Rheilffyrdd yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gyrraedd cynulleidfaoedd ar-lein ac i rannu gwybodaeth am ein gwasanaeth gyda defnyddwyr a rhanddeiliaid eraill.
Caiff ein cyfrif Twitter (@RailOmbudsman) ei reoli gan staff cyfathrebu’r Ombwdsmon Rheilffyrdd. Rydym yn diweddaru ac yn monitro ein cyfrif Twitter yn ystod oriau gwaith arferol (Llun – Gwener 0800 – 2000, dyddiau Sadwrn a gwyliau banc ac eithrio Dydd Nadolig, 0800 – 1300).
Mae’n bosibl y byddwn yn monitro neu’n ymateb o dro i dro y tu allan i’r oriau hyn. Rydym yn darllen yr holl @atebion a negeseuon uniongyrchol (DM) a anfonir atom, a byddwn yn ymateb i gynifer ag sy’n bosibl.
Efallai y byddwn yn defnyddio platfformau cyfryngau cymdeithasol:
- i sôn am y gwaith rydym yn ei wneud gyda’n darparwyr gwasanaeth i godi safonau’r diwydiant
- i gyrraedd cynulleidfa ehangach
- i hyrwyddo digwyddiadau, newyddion a dogfennau tebyg eraill
- i ddysgu am ddefnyddwyr a’u hanghenion
- i drosglwyddo gwybodaeth berthnasol oddi wrth drydydd partïon.
Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ategu gwefan yr Ombwdsmon Rheilffyrdd, a lle bo’n bosibl, bydd yn cyfeirio defnyddwyr yn ôl i’r wefan i gael gwybodaeth fanwl, ffurflenni a dogfennau eraill. Ni fyddwn yn trafod cwynion yn uniongyrchol ar y cyfryngau cymdeithasol a byddwn yn osgoi eu huwchgyfeirio yn y parth cyhoeddus. Dylai ein dulliau cyfathrebu fod yn glir ac yn hawdd eu deall.
Mae’n bosibl y byddwn yn ail-drydar dolenni a chynnwys sydd, yn ein tyb ni, yn berthnasol i’n gwaith ac o ddiddordeb i’n dilynwyr. Nid yw ail-drydariad yn ymhlygu bod yr Ombwdsmon Rheilffyrdd yn ei gymeradwyo. Darperir dolenni i safleoedd allanol er hwylustod a diddordeb y defnyddiwr yn unig. Nid yw’r Ombwdsmon Rheilffyrdd yn gyfrifol am gywirdeb y wybodaeth ar y gwefannau hynny, nac yn cymeradwyo’r safleoedd na’u cynnwys.
Rydym yn dilyn cyfrifon Twitter sy’n berthnasol i’n gwaith. Gall y rhain gynnwys cyfrifon unigolion, yn ogystal â sefydliadau cyhoeddus a phreifat. Nid yw ein penderfyniad ni i ddilyn defnyddiwr Twitter penodol yn ymhlygu cymeradwyaeth o unrhyw fath ac nid yw’n golygu bod yr Ombwdsmon Rheilffyrdd yn cefnogi’r defnyddiwr hwnnw, na’i farn.
Rydym yn croesawu ac yn annog unrhyw sylwadau ac yn disgwyl i’r sgyrsiau gael eu cynnal mewn ffordd barchus. Dylech osgoi ymosodiadau personol a chadw’ch sylwadau’n berthnasol. Nid yw’r Ombwdsmon Rheilffyrdd yn goddef sylwadau ymosodol, amharchus na ddifrïol am unigolyn, ein sefydliad nac unrhyw un o’r Darparwyr Gwasanaeth. Byddwn yn darllen pob ateb a neges uniongyrchol (DM) a anfonir atom, ac yn ateb, lle bo’n bosibl. Rydym yn cadw’r hawl i gyfyngu ar neu ddileu unrhyw gynnwys y bernir ei fod yn torri’r polisi cyfryngau cymdeithasol hwn neu unrhyw gyfraith berthnasol (fel y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2018).
Ni chaniateir y canlynol:
- iaith ddifrïol, anllad, anweddus, neu ymosodol
- sylwadau neu gyhuddiadau sy’n aflonyddu neu’n ddifenwol neu’n atgas yn erbyn unigolion neu sefydliadau
- sylwadau sy’n gwahaniaethu ar sail hil, tarddiad cenedlaethol neu ethnig, oed, credo, rhyw, statws priodasol, statws economaidd-gymdeithasol, anabledd corfforol neu feddyliol neu gyfeiriadedd rhywiol
- cynnwys rhywiol neu ddolenni i gynnwys rhywiol
- sylwadau’n cynnwys deisyfiadau, hysbysiadau, cyhoeddiadau neu gymeradwyaeth o unrhyw sefydliad masnachol, ariannol, llafur neu wleidyddol
- gormod o ddolenni a chod
- postiadau sy’n datgelu gormod o wybodaeth bersonol
- cynnwys sy’n mynd yn erbyn buddiant perchnogaeth gyfreithiol unrhyw barti arall
- postiadau nad ydynt yn perthyn i destun y safle neu’r deunydd y rhoddir sylwadau amdano
- postiadau sy’n ailadroddus neu yr ystyrir mai sbam ydynt, fel yr un sylw’n cael ei bostio dro ar ôl tro.
Mewn achosion lle mae angen i ddefnyddiwr ddilyn un o weithdrefnau mewnol y Darparwr Gwasanaeth cyn cysylltu â ni, byddwn yn cyfeirio’r defnyddiwr hwnnw at y Darparwr Gwasanaeth perthnasol.
Dylai’r rheiny sy’n dewis trafod â’r Ombwdsmon Rheilffyrdd ar y cyfryngau cymdeithasol fod yn ymwybodol eu bod yn gwneud hynny yn y parth cyhoeddus. Er mwyn gwarchod eich preifatrwydd chi a phreifatrwydd eraill, rydym yn argymell nad ydych yn cynnwys gwybodaeth bersonol yn eich postiadau.
Os yw defnyddiwr yn cysylltu â’r Ombwdsmon Rheilffyrdd trwy’r cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg, caiff gwasanaethau cyfieithu eu defnyddio ar sail ad hoc.
Mae rhai o staff yr Ombwdsmon Rheilffyrdd yn trydar o dan eu henwau eu hunain, fel dinasyddion preifat. Er gwaethaf eu cysylltiad proffesiynol â’r Ombwdsmon Rheilffyrdd, nid yw eu trydariadau na’u hail-drydariadau’n cynrychioli safbwynt swyddogol yr Ombwdsmon Rheilffyrdd.
Caiff gwybodaeth bersonol a roddwch i’r Ombwdsmon Rheilffyrdd trwy’r cyfryngau cymdeithasol ei chasglu, ei defnyddio a’i datgelu gan ein swyddfa ni at ei diben gorfodol ac yn unol â’n polisi cadw data.
Trydydd parti ac nid yr Ombwdsmon Rheilffyrdd sy’n lletya cyfrifon Twitter. Dylech ddarllen amodau gwasanaeth a pholisi preifatrwydd Twitter cyn ei ddefnyddio.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau ynghylch ein defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol, cysylltwch â’n swyddfa drwy anfon e-bost at info@railombudsman.org