Polisi Tryloywder

Mae holl gyflogeion yr Ombwdsmon Rheilffyrdd wedi ymrwymo i sicrhau tryloywder a bod yn agored fel bod y darparwyr gwasanaeth sy’n rhan o’r cynllun, y cyhoedd a rhanddeiliaid eraill yn gwybod pam mae’r gwasanaeth yn bodoli, beth mae’n ei wneud a beth i’w ddisgwyl ganddo.

Caiff yr Ombwdsmon Rheilffyrdd ei weithredu gan y Dispute Resolution Ombudsman Limited (“y Cwmni”).

Amcanion

Dyma’r amcanion y sefydlwyd y Cwmni i’w cyflawni:

  1. sefydlu, gweithredu a hyrwyddo cynllun ombwdsmon i brosesu cwynion ac i benderfynu ar anghydfodau mewn perthynas â darparu nwyddau a gwasanaethau;
  2. hybu gwelliannau o ran safonau masnach a chyhoeddi a gweithredu codau ymarfer mewn perthynas â chynhyrchu a dosbarthu nwyddau a gwerthu nwyddau a gwasanaethau;
  3. hybu diogelu cwsmeriaid;
  4. datblygu a hybu datrys anghydfodau rhwng unrhyw bartïon mewn modd effeithiol; a
  5. darparu gwasanaethau cyngor a hyfforddiant mewn perthynas â’r uchod.

Er mwyn dangos ein hymrwymiad i onestrwydd, uniondeb a bod yn agored a’n cydymffurfiaeth â’n rhwymedigaethau, rydym wedi cymryd y camau canlynol i sicrhau tryloywder:

Gwybodaeth ar ein gwefan

Mae’r Ombwdsmon Rheilffyrdd wedi ymrwymo i fod yn effeithiol ac yn hygyrch i’r cyhoedd a chydnabyddwn fod ein gwefan yn cynnig porth cychwynnol, un stop i’r hyn ydym ni a’r hyn a wnawn. Mae hyn yn hanfodol er mwyn codi ymwybyddiaeth defnyddwyr o’r cynllun. At hynny, gan fod ein haelodau wedi ymrwymo i chwarae rhan gadarnhaol a llawn yng ngwasanaeth yr Ombwdsmon Rheilffyrdd, mae hyn yn ffordd bwysig o hybu ymgysylltiad â’r holl randdeiliaid.

Fformatau Hygyrch

Mae ein gwybodaeth ar gael mewn fformatau hygyrch a chopi caled ar gais neu i’w defnyddio gan ein holl staff wrth ymateb i ymholiad penodol.

Mae ein holl staff yn cael eu hyfforddi ar sail ein tryloywder ac annibyniaeth ac felly yn gallu ymateb mewn modd priodol i ymholiadau er mwyn dangos ein hymrwymiad i’n gwerthoedd craidd, yn arbennig onestrwydd, uniondeb a bod yn agored.