Judith Turner
Astudiodd Judith y Gyfraith yn King’s College, Llundain am dair blynedd cyn graddio gydag anrhydedd yn 1998. Aeth ymlaen i gwblhau’r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (LPC) a chontract hyfforddi cyn cymhwyso fel cyfreithiwr yn 2001. Cyn hynny, roedd hi’n cael ei chyflogi gan gwmni City Law, gan ymdrin â Chyfraith Fasnachol. Ymunodd Judith â’r Ombwdsmon yn 2011 ac mae bellach yn arbenigo mewn Dulliau Amgen o Ddatrys Anghydfodau.
Ers iddi gael ei phenodi, mae Judith wedi ysgrifennu a chyflwyno amrywiaeth eang o gyrsiau hyfforddi achrededig ar Gyfraith Defnyddwyr a Chydymffurfiaeth, wedi’u teilwra i’r sectorau y mae’r Ombwdsmon yn gweithredu ynddynt. Bydd Judith yn aml yn annerch cynadleddau a digwyddiadau i’r diwydiant ac i ombwdsmyn. Judith yw Cadeirydd presennol Rhwydwaith Polisi Cymdeithas yr Ombwdsmyn ac mae’n aelod o Banel Cyswllt Dull Amgen o Ddatrys Anghydfodau’r Cyngor Cyfiawnder Sifil. Mae hi wedi ysgrifennu’n helaeth ar faterion Dull Amgen o Ddatrys Anghydfodau a materion defnyddwyr a hi yw cydawdur y deunydd a gyhoeddir cyn bo hir ar ran yr Ombwdsmon yn Atkins Court Forms.