Billy Quinn

Ymunodd Billy â Bwrdd Datrys Anghydfodau’r Ombwdsmon yn 2014 fel Cyfarwyddwr Anweithredol, gan wasanaethu fel Cadeirydd y Bwrdd 2017-18. Fe’i penodwyd yn Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp Datrys Anghydfodau’r Ombwdsmon yn 2016. Ar ôl astudio Busnes ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion, mae Billy wedi bod yn gweithio am ddegawdau mewn manwerthu ac arweinyddiaeth. Bu’n uwch-swyddog gweithredol ac yn gyfarwyddwr gyda’r Home Retail Group a B&Q, rhan o Grŵp Kingfisher.

Yn aelod gweithgar o Elusen y Gwneuthurwyr Dodrefn, bu Billy’n Gadeirydd ei Phwyllgor Codi Arian rhwng 2016 a 2020. Mae hefyd yn Uwch Swyddog Gweithredol y corff Central Compliance UK, sy’n arbenigo mewn darparu hyfforddiant Asbestos.