Richard Puckey
Mae Richard wedi bod yn gweithio i’r Ombwdsmon Datrys Anghydfodau ers 2019, yn bennaf ar faterion yn ymwneud â rheolaeth ariannol y contract rheilffyrdd. Graddiodd gyda BA (Anrh) mewn Astudiaethau Busnes o Brifysgol Northumbria ym 1990.
Yn 1992, daeth yn aelod o’r Gymdeithas Cyfrifwyr Cost a Rheolaeth (ACMA). Mae wedi gweithio i amryw o frandiau, gan gynnwys penodiad rhyngwladol gyda Gillette yn Boston Massachusetts, mewn rolau â chyfrifoldeb cynyddol yn y Swyddogaeth Gyllid. Bu Richard yn gweithio i Apple rhwng 2001 a 2016 mewn amryw o swyddi Rheolwr Ariannol ar draws y DU, gwledydd Llychlyn, Ffrainc, yr Almaen ac yn y Busnes Ar-lein Traws-Ewropeaidd.