James Walker

Mae James yn Uwch Swyddog Gweithredol ar Rightly, sef Gwasanaeth i ddefnyddwyr gael perchnogaeth ar eu data. Mae hefyd yn Uwch Swyddog Gweithredol JamDoughnut, gwasanaeth meithrin ffyddlondeb defnyddwyr, ac yn swyddog gweithredol i’r Collaboration Network, arbenigwr defnyddwyr i’r Swyddfa Ffyrdd a Rheilffyrdd.

James yw sylfaenydd Resolver.co.uk hefyd. Gwasanaeth cwynion ar-lein am ddim yw hwnnw, a sefydlwyd gan James i helpu dros 18 miliwn o ddefnyddwyr y flwyddyn i ddatrys eu hanghydfodau. Mae wedi cynghori’r Llywodraeth ar faterion defnyddwyr ac fe gynorthwyodd Lywodraeth yr Alban i Ddatblygu eu strategaeth ‘Consumer Scotland’.

Yn enillydd Entrepreneur Cymdeithasol y flwyddyn, mae James yn swyddog anweithredol ar gyfer nifer o fusnesau newydd. Ei ffocws yw helpu busnesau i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid sy’n arwain y farchnad, wrth helpu defnyddwyr i ddeall ac arfer eu hawliau.

Mae James wedi ysgrifennu colofn  ar gyfer tri phapur newydd cenedlaethol.