John Peerless
Mae gan John Peerless dros 40 mlynedd o brofiad ym maes amddiffyn defnyddwyr. Ar ôl cymhwyso fel Arolygydd Pwysau a Mesurau, daeth yn Bennaeth Safonau Masnach Cyngor Dinas Brighton a Hove. Bu’n arwain tîm twyll rhanbarthol (SCAMBUSTERS) am gwpl o flynyddoedd cyn dychwelyd i Brighton a Hove yn 2011. Bellach, John yw ei Prif Swyddog Safonau Masnach gyda chyfrifoldeb arbennig am fynd i’r afael â masnachu twyllodrus.
Mae wedi bod mewn nifer o swyddi blaenllaw, gan gynnwys Cadeirydd Cymdeithas y Prif Swyddogion Safonau Masnach, Llywydd Undeb Credyd lleol ac aelod o Fwrdd y Rhwydwaith Cenedlaethol Atal Twyll. Daeth yn Gymrawd o’r Sefydliad Safonau Masnach Siartredig ac mae hefyd yn gyn-Gadeirydd. Mae John yn ddylanwadol ac uchel ei barch yn y byd Safonau Masnach. Mae wedi parhau i gefnogi defnyddwyr trwy ddod yn aelod o Fwrdd Sefydliad Gosod Ceginau ac Ystafelloedd Ymolchi Prydain yn ogystal â’r sefydliad hwn. Yn gefnogwr rygbi brwd mae bellach yn hyfforddwr pêl-droed iau ac yn rheoli tîm dan 11 oed.