Trawsysgrif Fideo

Trawsysgrif Clip BSL gan InterpretersLive! ar gyfer Cywiro Diffygion

Croeso i InterpretersLive!

Ydych chi’n cael trafferth i gysylltu â gwasanaeth InterpretersLive?

Os felly, dylech wirio’r canlynol:

  1. Os gennych gyflymder band-eang digonol? Mae angen o leiaf 1MB i gysylltu â’r gwasanaeth, neu 3G/4G cryf. Beth am gynnal prawf cyflymder y rhyngrwyd?
  2. Pa borwr sydd ar eich dyfais? Mae arnoch angen naill ai Firefox, Chrome, Opera neu Safari (mae angen lawrlwytho ategyn) neu Internet Explorer (mae angen lawrlwytho ategyn)
  3. Ai dim ond un porwr sydd ar agor gennych?
  4. Os ydych chi’n ceisio cysylltu â gwasanaeth IL ar ffôn, llechen neu iPad, cysylltwch â ni a byddwn yn darparu canllaw i’r ap a lawrlwythiad am ddim, neu dilynwch y cyfarwyddiadau ar ddiwedd y canllaw fideo hwn.
  5. Ydych chi’n ceisio cysylltu ag InterpretersLive o’r gwaith? Ydy’r sgrin yn ddu? Neu oes neges yn dweud ei fod yn ceisio cyrraedd y gweinydd? Mae’n bosibl bod y wal dân yn atal eich dyfais rhag defnyddio’r gwasanaeth.

Dylech ofyn i’ch tîm TG gysylltu â ni, a gallwn ddatrys y broblem gyda nhw.

Os ydych chi’n dal i gael problemau ar ôl rhoi cynnig ar yr uchod, rwy’n awgrymu eich bod yn cysylltu â ni gan ddefnyddio un o’r dulliau hygyrch ar ein tudalen gyswllt: https://www.signsolutions.uk.com/deaf-community/ 

Os hoffech gysylltu ar iPad/iPhone/llechen Android, dylech lawrlwytho’r ap cydnaws https://portal.starleaf.com/app_download?version=latest Pan fyddwch wedi cofrestru, rhowch interpreterslive@signsolutions.uk.com yn y chwiliad a chliciwch i wneud galwad fideo.

Diolch yn fawr ac edrychwn ymlaen at gymryd eich galwad!