Gwasanaeth Dehonglydd Iaith Arwyddion

Mae’n bleser gennym alluogi defnyddwyr BSL i gysylltu â ni gan ddefnyddio dehonglydd Iaith Arwyddion, trwy wasanaeth InterpretersLive!, a ddarperir gan Sign Solutions.

Cyn ichi ddefnyddio gwasanaeth InterpretersLive!, dewiswch pa ddyfais yr hoffech ei defnyddio:

Dyfais Symudol

Lawrlwythwch yr ap

Cyfrifiadur Bwrdd Gwaith

Defnyddiwch un o’r porwyr gwe canlynol i fynd at y gwasanaeth: Google Chrome, Mozilla, Firefox neu Internet Explorer 11.

Argaeledd y Gwasanaeth

Mae ein gwasanaeth fideo InterpretersLive! ar gael o 08.00 i 20:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener ac o 08.00 i 13.00 ar ddydd Sadwrn.

Sut i ddefnyddio gwasanaeth InterpretersLive!

Gofynion sylfaenol

Mae’r gwasanaeth yn gydnaws â’r porwyr canlynol:

  • Google Chrome fersiwn 65 a diweddarach
  • Firefox fersiwn 55 a diweddarach
  • Opera fersiwn 50 a diweddarach

Os ydych chi’n defnyddio Safari 9 neu Internet Explorer 11, dylech lawrlwytho’r ategyn pan gewch chi eich annog i wneud. Dim ond unwaith y bydd angen ichi ei lawrlwytho – y tro nesaf, byddwch yn mynd yn syth at y botwm galw.

Cymorth a Chywiro Diffygion

Os ydych yn cael trafferth i gysylltu â gwasanaeth InterpretersLive! gwyliwch ein canllaw cywiro diffygion (mae trawsysgrif o’r fideo ar gael yma)

Noder: os oes llai na 120kbps ar gael ar eich dyfais, bydd yr alwad yn un sain yn unig. Rhaid bod o leiaf 192kbps ar gael i wneud galwadau fideo.

Os ydych yn cael trafferth i ddefnyddio’r ap, gwyliwch ein canllaw lawrlwytho. Mae trawsysgrif o’r fideo ar gael yma

Fel arall, cysylltwch â Sign Solutions i gael mwy o gymorth neu i roi adborth ar y gwasanaeth.

Os hoffech wneud cwyn, dylech ddilyn y canllawiau a nodir yma.

Preifatrwydd

Mae Sign Solutions darparwyr InterpretersLive! wedi’u hardystio ISO 27001 ac ISO 9001, ac mae’r holl ddata’n cael eu prosesu a’u cadw’n ddiogel. Fel sefydliad ardystiedig, rydym wedi ymrwymo i wella’n barhaus ac yn cael ein hasesu’n allanol bob blwyddyn, er mwyn sicrhau y caiff cynnydd ei gynnal.