Trawsysgrif Fideo
Trawsysgrif Clip BSL gan InterpretersLive! ar gyfer Cywiro Diffygion
Croeso i InterpretersLive!
Ydych chi’n cael trafferth i gysylltu â gwasanaeth InterpretersLive?
Os felly, dylech wirio’r canlynol:
- Os gennych gyflymder band-eang digonol? Mae angen o leiaf 1MB i gysylltu â’r gwasanaeth, neu 3G/4G cryf. Beth am gynnal prawf cyflymder y rhyngrwyd?
- Pa borwr sydd ar eich dyfais? Mae arnoch angen naill ai Firefox, Chrome, Opera neu Safari (mae angen lawrlwytho ategyn) neu Internet Explorer (mae angen lawrlwytho ategyn)
- Ai dim ond un porwr sydd ar agor gennych?
- Os ydych chi’n ceisio cysylltu â gwasanaeth IL ar ffôn, llechen neu iPad, cysylltwch â ni a byddwn yn darparu canllaw i’r ap a lawrlwythiad am ddim, neu dilynwch y cyfarwyddiadau ar ddiwedd y canllaw fideo hwn.
- Ydych chi’n ceisio cysylltu ag InterpretersLive o’r gwaith? Ydy’r sgrin yn ddu? Neu oes neges yn dweud ei fod yn ceisio cyrraedd y gweinydd? Mae’n bosibl bod y wal dân yn atal eich dyfais rhag defnyddio’r gwasanaeth.
Dylech ofyn i’ch tîm TG gysylltu â ni, a gallwn ddatrys y broblem gyda nhw.
Os ydych chi’n dal i gael problemau ar ôl rhoi cynnig ar yr uchod, rwy’n awgrymu eich bod yn cysylltu â ni gan ddefnyddio un o’r dulliau hygyrch ar ein tudalen gyswllt: https://www.signsolutions.uk.com/deaf-community/
Os hoffech gysylltu ar iPad/iPhone/llechen Android, dylech lawrlwytho’r ap cydnaws https://portal.starleaf.com/app_download?version=latest Pan fyddwch wedi cofrestru, rhowch interpreterslive@signsolutions.uk.com yn y chwiliad a chliciwch i wneud galwad fideo.
Diolch yn fawr ac edrychwn ymlaen at gymryd eich galwad!