Beth allem ni ofyn i’r Darparwr Gwasanaeth amdano?

Byddwn yn gofyn i’r Darparwr Gwasanaeth esbonio ei ddealltwriaeth o’ch cwyn, a yw’n cytuno ei fod ar fai a beth mae wedi’i wneud neu mae’n bwriadu ei wneud i unioni’r sefyllfa. I gefnogi hyn, gan ddibynnu ar y gŵyn, efallai y byddwn yn gofyn iddo am bethau fel:

  • ei Siarter Teithwyr;
  • prawf o’r camau mae wedi’u cymryd eisoes;
  • unrhyw gynigion a wnaed eisoes i ddatrys y gŵyn;
  • datganiadau gan ei staff;
  • data a gasglwyd o gatiau tocynnau awtomatig, systemau teledu cylch cyfyng neu gardiau clyfar; a
  • phrawf bod gwasanaeth wedi cael ei archebu: cadw sedd, cymorth mewn gorsaf.