Beth os nad ydych yn clywed gan y Darparwr Gwasanaeth ar ôl ichi dderbyn ein penderfyniad?

Bydd yr Ombwdsmon Rheilffyrdd yn gallu dilyn hyn i fyny ar ôl i’r Darparwr Gwasanaeth gael cyfle rhesymol i drefnu hyn gyda chi. Gofynnwn ichi ganiatáu 20 diwrnod gwaith i’r Darparwr Gwasanaeth brosesu’ch setliad (neu 10 diwrnod gwaith os ydych chi’n aros am ad-daliad). Os nad ydych yn clywed oddi wrtho neu os nad ydych wedi cael eich setliad ar ôl y cyfnod hwn, anfonwch neges e-bost at: aftercare@railombudsman.org.