Lansio Ombwdsmon Rheilffyrdd newydd
Lansio Ombwdsmon Rheilffyrdd annibynnol newydd heddiw
Mae’r gwasanaeth Ombwdsmon Rheilffyrdd cyntaf erioed yn cael ei lansio heddiw, fel rhan o ymdrechion y diwydiant i gynnal y safonau uchaf yn ei broses cwynion ac i gynyddu boddhad cwsmeriaid.
Heddiw, (26 Tachwedd 2018) mae Ombwdsmon diduedd ac annibynnol newydd i’r rheilffyrdd yn cael ei lansio i wella ymhellach broses cwynion cwsmeriaid y diwydiant. Mae’r diwydiant rheilffyrdd wedi gweithio gyda’r Llywodraeth a grwpiau defnyddwyr i benodi’r Ombwdsmon Rheilffyrdd newydd.
Mae’r cwmnïau trên yn ymdrin â’r mwyafrif helaeth (99%) o gwynion heb yr angen i bobl droi at broses apeliadau, yn ôl y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd (ORR). Fodd bynnag, mae cwmnïau rheilffordd gyda’i gilydd yn cefnogi ac ariannu’r Ombwdsmon Rheilffyrdd er mwyn meithrin mwy o hyder yn eu gwasanaethau a chyflawni eu hymrwymiad i gynyddu boddhad cwsmeriaid.
Os oes gan gwsmeriaid gŵyn am rywbeth sy’n digwydd o heddiw a’u bod yn anfodlon ar y ffordd mae cwmni rheilffordd wedi ymdrin â hi, yn awr gallan nhw apelio at yr Ombwdsmon Rheilffyrdd. Mae gan y corff newydd hwn arbenigedd mewn cyfraith defnyddwyr a dulliau amgen o ddatrys anghydfodau a bydd yn adolygu apeliadau gyda golwg ar eu datrys trwy gyfryngu neu drwy gyhoeddi dyfarniad cyfrwymol ffurfiol os na ellir dod i gytundeb rhwng y cwsmer a’r cwmni.
Bydd cwmnïau rheilffordd yn dal i wneud popeth a allan nhw i ddatrys cwynion yn uniongyrchol gyda chwsmeriaid. Yn awr, mae gan gwsmeriaid y sicrwydd ychwanegol bod yr Ombwdsmon Rheilffyrdd yn goruchwylio’r broses gyda’r pŵer i orfodi cwmnïau rheilffordd i weithredu os bydd yn canfod diffygion. Mae hyn yn golygu na fydd modd i fethiant i gytuno rhwng cwmni rheilffordd a chwsmer ynghylch cwyn barhau’n ddiddiwedd.
Gall cwsmeriaid droi at wasanaeth di-dâl yr Ombwdsmon Rheilffyrdd os ydyn nhw’n anfodlon ar yr ateb terfynol oddi wrth gwmni rheilffordd (a elwir weithiau ‘llythyr methiant i gytuno’) neu os nad yw eu cwyn wedi cael ei datrys cyn pen 40 diwrnod gwaith ar ôl i’r cwmni rheilffordd ei chael.
Dywedodd Jacqueline Starr, Rheolwr Gyfarwyddwr Profiad y Cwsmer gyda’r Rail Delivery Group:
“Rwy’n falch i gyhoeddi bod yr Ombwdsmon Rheilffyrdd annibynnol yn cael ei lansio, fel rhan o’n hymrwymiad i wella profiad y cwsmer. Bydd y broses newydd hon i Brydain gyfan yn gwneud cwsmeriaid yn ganolog i’r broses datrys cwynion ac yn rhoi iddyn nhw fwy o hyder byth ein bod ni’n gwneud cymaint ag y gallwn i sicrhau canlyniad teg.”
Mae’r cynllun yn cyflawni ymrwymiad y Llywodraeth i gefnogi sefydlu Ombwdsmon Rheilffyrdd annibynnol newydd i wella profiadau teithwyr.
Dywedodd Andrew Jones, y Gweinidog Rheilffyrdd:
“Mae hwn yn gam sylweddol ymlaen ar gyfer hawliau teithwyr. Bydd yr ombwdsmon annibynnol hwn yn sicrhau y clywir llais teithwyr ac y cânt driniaeth deg pan fo cwmnïau trên yn methu’r nod.
“Rhaid i gwmnïau rheilffordd achub ar y cyfle hwn i wella eu proses cwynion ac i gynyddu boddhad cwsmeriaid.”
Caiff y gwasanaeth ei ddarparu gan y Dispute Resolution Ombudsman, sydd â hanes da o lwyddo gyda dulliau amgen o ddatrys anghydfodau yn y sector manwerthu.
Dywedodd Kevin Grix, Prif Weithredwr a Phrif Ombwdsmon gyda’r Dispute Resolution Ombudsman:
“Rydym yn llawn cyffro ynghylch dechrau fel yr Ombwdsmon Rheilffyrdd newydd a darparu gwasanaeth annibynnol a all ddatrys anghydfodau rhwng defnyddwyr a’r diwydiant rheilffyrdd. Gyda’n sylfaen gyfreithiol a blynyddoedd o brofiad rydym mewn sefyllfa dda i gynorthwyo cwmnïau rheilffordd i wrando ar eu cwsmeriaid yn well a helpu i wella eu gwasanaethau.”
Bydd yr Ombwdsmon Rheilffyrdd newydd yn adeiladu ar y gwaith pwysig mae’r cyrff apeliadau statudol (Transport Focus a London TravelWatch) wedi’i wneud ers blynyddoedd lawer, gyda llawer o lwyddiant, ond heb unrhyw bwerau i orfodi gweithredwyr i sicrhau datrysiad cyfrwymol ar gyfer cwyn mae anghydfod yn ei chylch. Bydd perfformiad y Dispute Resolution Ombudsman yn cael ei fonitro’n fanwl gan y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd, Transport Focus a London TravelWatch.
Dywedodd Anthony Smith, Prif Weithredwr y corff gwarchod annibynnol Transport Focus:
“Mae cyflwyno dull di-dâl, cyfrwymol ac annibynnol o ddatrys anghydfodau ar gyfer cwynion y methwyd â chytuno arnynt ym maes y rheilffyrdd yn gam ymlaen i’w groesawu i deithwyr rheilffyrdd – ac yn rhywbeth rydym wedi galw amdano ers blynyddoedd lawer. Bydd ei ddyfodiad hefyd yn ysgogi rhagor o welliannau yn y gwaith o ymdrin â chwynion. Byddwn ni’n dal i ymdrin â llawer o’r materion mae teithwyr yn eu codi sydd y tu allan i gylch gwaith y cynllun hwn, a byddwn yn monitro’n fanwl y ffordd mae’r Ombwdsmon yn gweithio er mwyn sicrhau ei bod wir yn llwyddo ar gyfer teithwyr.”
AR GYFER Y CYFRYNGAU YN LLUNDAIN Dywedodd Janet Cooke, Prif Swyddog Gweithredol London TravelWatch:
“Rydym ni’n falch bod cynllun yr Ombwdsmon yn ymestyn hawliau teithwyr ac yn adeiladu ar ein llwyddiant yn y gorffennol wrth eiriol drostyn nhw pan fo anghydfod gyda gweithredwyr trenau. Mae’r broses hon yn cyflwyno gwaith datrys contractiol cyfrwymol a fydd yn helpu teithwyr i gael bargen well.”
Dywedodd Darren Shirley, Prif Weithredwr y Campaign for Better Transport:
“Mae miliynau o bobl yn dibynnu ar y rheilffyrdd pob dydd; pan fo pethau’n mynd o chwith maen nhw’n haeddu bod yn hyderus y rhoddir sylw i’w cwynion. Rydym ni’n croesawu’r Ombwdsmon newydd a fydd yn helpu i roi’r hyder hwn iddyn nhw.”
Mae’r Ombwdsmon Rheilffyrdd newydd yn rhan o fwriad y rheilffyrdd i newid a gwella. Gan weithio mewn partneriaeth, bydd y diwydiant yn sicrhau gwerth £85 biliwn o fudd economaidd ychwanegol, yn cynyddu boddhad cwsmeriaid, yn rhoi hwb i gymunedau lleol ac yn creu mwy o swyddi a swyddi gwell ym maes y rheilffyrdd.