Rail Delivery Group logo

Y diwydiant rheilffyrdd yn penodi ei ombwdsmon cyntaf i wella’r weithdrefn gwynion i gwsmeriaid

Ysgrifennwyd ar 18 Gorffennaf 2018.

Y diwydiant rheilffyrdd yn penodi’r ‘Dispute Resolution Ombudsman’ i ddyfarnu ar gwynion fel rhan o fwriad y diwydiant rheilffyrdd i newid a gwella.

Gan weithio ar ran gweithredwyr trenau a Network Rail, mae’r Rail Delivery Group (RDG) wedi penodi’r Dispute Resolution Ombudsman i sefydlu’r ombwdsmon cyntaf i’r diwydiant rheilffyrdd i ddyfarnu ar gwynion cwsmeriaid. Bydd gan y corff annibynnol, sydd eisoes yn darparu gwasanaeth ombwdsmon i ddiwydiannau eraill, y pŵer i ddal cwmnïau trên i gyfrif.

LYm mis Hydref y llynedd, fel rhan o gyd-gynllun y diwydiant i newid a gwella, ymrwymodd cwmnïau rheilffordd i greu ombwdsmon rheilffyrdd i feithrin hyder yn ei wasanaethau ymhellach. Bydd y gwasanaeth ombwdsmon rheilffyrdd, a fydd hygyrch ac yn ddi-dâl, yn cael ei lansio ym mis Tachwedd a bydd yn ymdrin â theithiau ar y rheilffyrdd ledled Prydain.

Bydd cwsmeriaid sy’n anfodlon ar ganlyniadau eu cwynion i gwmnïau rheilffordd yn gallu eu cyfeirio i gael dyfarniad ffurfiol gan arbenigwyr ar hawliau defnyddwyr, gan roi mwy o hyder i gwsmeriaid y byddan nhw’n cael gwrandawiad teg. Bydd penderfyniadau gan yr ombwdsmon yn gyfrwymol a bydd rhaid i gwmnïau rheilffordd weithredu os canfyddir diffygion. Mae’r penodiad yn dilyn proses caffael gystadleuol.

Dywedodd y Gweinidog Rheilffyrdd, Jo Johnson:

“Pan fo cwmnïau trên yn methu’r nod, mae’n hanfodol i deithwyr gael yr iawn maen nhw’n ei haeddu a chael eu trin â pharch.”

“Mae hwn yn gam pwysig gan y diwydiant – bydd ombwdsmon annibynnol ac effeithiol, yn gweithio’n agos gyda grwpiau defnyddwyr, yn sicrhau y caiff teithwyr fargen deg ac yn rhoi llais cryfach iddyn nhw. Bydd hefyd yn helpu’r cwmnïau rheilffordd i wella eu gwasanaeth i deithwyr.”