Polisi Cwcis

Mae gwefan yr Ombwdsmon Rheilffyrdd ​(“ni” neu “ein”) yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ac i wella’ch profiad o’r wefan. Mae’r Polisi hwn yn esbonio beth yw cwcis, sut yr ydym yn eu defnyddio, sut y gall trydydd partïon eu defnyddio a’ch dewisiadau chi o ran cwcis.

BETH YW CWCIS?

Darnau bach o destun a gaiff eu storio ar eich porwr, y dudalen yr ydych yn edrych arni ar y wefan neu ar eich dyfais yw cwcis. Maent yn galluogi’r wefan neu drydydd parti i’ch adnabod chi a’ch helpu i lywio’r wefan yn haws.

Caiff rhai cwcis eu dileu pan fyddwch yn cau’ch porwr (cwcis “sesiynol”) a chaiff rhai eraill eu cadw ar ôl ichi gau’ch porwr (cwcis “parhaus”). Nid yw cwcis yn gwneud difrod i’ch cyfrifiadur. Os hoffech ddysgu mwy am gwcis yn gyffredinol, ewch i wefan All About Cookies.

PA FATH O GWCIS YDYM NI’N EU DEFNYDDIO?

Rydym yn defnyddio cwcis sesiynol a rhai parhaus ar y wefan, ac rydym yn defnyddio gwahanol fathau o gwcis i redeg gwasanaeth yr Ombwdsmon Rheilffyrdd. Efallai y byddwn yn defnyddio cwcis hanfodol i ddilysu defnyddwyr ac i sicrhau nad yw cyfrifon defnyddwyr yn cael eu defnyddio’n dwyllodrus.

SUT YR YDYM YN DEFNYDDIO CWCIS

Rydym yn defnyddio cwcis at y dibenion canlynol: i alluogi rhai o swyddogaethau’r wefan, i ddarparu dadansoddeg ac i storio’ch dewisiadau.

CWCIS TRYDYDD PARTÏON

Yn ogystal â’n cwcis ein hunain, efallai y byddwn hefyd yn defnyddio cwcis trydydd partïon amrywiol i adrodd ar ystadegau defnyddio gwasanaeth yr Ombwdsmon Rheilffyrdd.

BETH YW EICH DEWISIADAU O RAN CWCIS?

Os hoffech ddileu cwcis neu gyfarwyddo’ch porwr gwe i ddileu neu wrthod cwcis, ewch i dudalennau cymorth eich porwr gwe.

Noder fodd bynnag, os ydych yn dileu cwcis neu’n gwrthod eu derbyn, efallai ni fydd modd ichi ddefnyddio’r holl nodweddion a gynigiwn, efallai na fyddwch yn gallu storio’ch dewisiadau ac efallai na fydd eich cyfrifiadur yn dangos rhai o’n tudalennau’n gywir.

Rhagor o wybodaeth Gallwch ddysgu mwy am gwcis ar wefannau’r trydydd partïon canlynol: