Ein hannibyniaeth a’n llywodraethiant

Dogfen Llywodraethu yr Ombwdsmon Rheilffyrdd

Gweithredir yr Ombwdsmon Rheilffyrdd gan Dispute Resolution Ombudsman (Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr, Rhif Cwmni 08945616), is-gwmni The Ombuds Group (cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr, rhif cwmni: 14275884).

Mae DRO yn gwmni nid-er-elw cyfyngedig drwy warant.

Bwrdd Gwasanaeth y Dull Amgen o Ddatrys Anghydfodau’r Rheilffyrdd

Mae’r Bwrdd, sy’n cynnwys Cadeirydd annibynnol a mwyafrif o Gyfarwyddwyr Anweithredol, yn gyfrifol am benodi’r Prif Ombwdsmon ac am lywodraethu. Hefyd mae Bwrdd Gwasanaeth y Dull Amgen o Ddatrys Anghydfodau’r Rheilffyrdd yn helpu i ddiogelu buddiannau’r Ombwdsmon Rheilffyrdd er mwyn sicrhau ei fod yn rhydd i weithredu’n effeithiol ac yn annibynnol. Mae’r Bwrdd yn cyfarfod yn chwarterol ac yn goruchwylio’n gadarn y broses o weithredu Rheolau’r Cynllun a’r Meini Prawf Cymhwystra er mwyn sicrhau bod yr Ombwdsmon Rheilffyrdd yn rhydd i weithredu’n annibynnol ar y rhai mae gan yr Ombwdsmon Rheilffyrdd y pŵer i ymchwilio iddynt. Mae pawb ar y Bwrdd yn llofnodi Datganiad Person Cymwys a Phriodol. Bydd Bwrdd Gwasanaeth y Dull Amgen o Ddatrys Anghydfodau’r Rheilffyrdd yn ymgynghori â Phaneli Cynghori Sector y Rheilffyrdd ynghylch materion sy’n galw am fewnbwn a chyngor gan y diwydiant rheilffyrdd neu eiriolaeth defnyddwyr ac o ran sut i wella’r ffordd mae’n cyflawni ei amcanion a’i swyddogaethau.

Ein Tîm

Mae ein tîm o staff yr Ombwdsmon Rheilffyrdd yn ymroddedig ac yn frwdfrydig ac wedi dod i weithio gyda’r Ombwdsmon fel arbenigwyr yn eu maes. Mae ein holl Ombwdsmyn yn weithwyr proffesiynol â chymwysterau cyfreithiol, y mae llawer ohonynt wedi cael gradd meistr neu yn astudio ar ei chyfer. Mae’r holl Ombwdsmyn yn swyddogion Dull Amgen o Ddatrys Anghydfodau dynodedig, wedi’u penodi ar sail barhaol yn dilyn asesiad trylwyr, ac yn destun dysgu a datblygu parhaus.

Nid yw unrhyw aelod o’n staff yn cael cydnabyddiaeth ariannol ar ffurf bonws neu strwythur comisiynu. Nid yw cydnabyddiaeth ariannol yn gysylltiedig â chanlyniadau gwaith achos a rhaid i’r holl staff ddatgan unrhyw fuddiannau o dan ein Polisi Gwrthdaro Buddiannau ffurfiol: Polisi Gwrthdaro Buddiannau – yr Ombwdsmon Rheilffyrdd.

Aseswr Annibynnol

Er mwyn diogelu’r Cynllun ymhellach a chynnwys lefel ychwanegol o oruchwyliaeth annibynnol ynddo, mae Dispute Resolution Ombudsman wedi penodi Kathryn Stone OBE, CDir, FloD yn Adolygydd Cwynion Annibynnol ac Aseswr Annibynnol i sicrhau y caiff y Cynllun ei weithredu’n dryloyw, yn deg ac yn rhesymol. Mae’r Aseswr Annibynnol yn cyflwyno Adroddiad Blynyddol. I gael mwy o wybodaeth am rôl yr Aseswr Annibynnol, gan gynnwys sut i gysylltu ag ef, gweler y Cwestiynau Cyffredinol.

Paneli Cynghori Sector y Rheilffyrdd

Bydd Bwrdd Gwasanaeth y Dull Amgen o Ddatrys Anghydfodau’r Rheilffyrdd yn gallu cysylltu â, a chael ei gynghori gan:

Y Panel Cynghori Teithwyr, sy’n cynnwys unigolion â chefndir mewn a/neu brofiad a gwybodaeth sy’n gallu cynrychioli buddiannau Defnyddwyr, ac yn cynnwys cynrychiolwyr o gyrff gwarchod teithwyr y Diwydiant Rheilffyrdd sef London TravelWatch a Transport Focus. Dan gadeiryddiaeth Jon Walters (Arweinydd Strategaeth Cynghori Cyngor ar Bopeth), a chan gynnwys arbenigwyr o sectorau’r Dull Amgen o Ddatrys Anghydfodau, y byd academaidd a chyrff eiriolaeth defnyddwyr eraill, diben y panel yw:

  • Cynghori’r Bwrdd ar dueddiadau sy’n dod i’r amlwg ac anawsterau o safbwynt arbenigwyr perthnasol a chynrychiolwyr buddiannau allweddol;
  • Cynghori’r Bwrdd ar sut y gall y Gwasanaeth Dull Amgen o Ddatrys Anghydfodau’r Rheilffyrdd gyflawni ei amcanion a’i swyddogaethau, yn enwedig ei rôl o ysgogi gwelliant parhaus yn sector y rheilffyrdd; a
  • Canfod cyfleoedd i fireinio neu ymestyn gwaith yr ombwdsmon, er enghraifft drwy awgrymu ffyrdd gwahanol o weithio.

Panel Aelodau’r Cynllun, a fydd yn cynnwys cynrychiolwyr Aelodau’r Cynllun, a ddaw o wahanol ranbarthau gan gynnwys y gweinyddiaethau datganoledig, llwybrau daearyddol a mathau gwahanol o gwmnïau trên er mwyn sicrhau bod amrywiaeth o gwmnïau trên a chwmnïau sy’n gweithredu gorsafoedd, er enghraifft Network Rail, ac aelodau gwirfoddol, megis Ymholiadau’r Rheilffyrdd Cenedlaethol, yn cael eu cynrychioli. Diben y panel yw:

  • Cynghori Bwrdd Gwasanaeth y Dull Amgen o Ddatrys Anghydfodau’r Rheilffyrdd ar dueddiadau sy’n dod i’r amlwg ac anawsterau o safbwynt arbenigwyr perthnasol a buddiannau aelodau allweddol yn nhermau eu gwybodaeth a phrofiad unigol, a hefyd y sefydliadau a gynrychiolir ganddynt: a
  • Cynghori Bwrdd Gwasanaeth y Dull Amgen o Ddatrys Anghydfodau’r Rheilffyrdd ar sut y gall y Gwasanaeth Dull Amgen o Ddatrys Anghydfodau’r Rheilffyrdd gyflawni ei amcanion a’i swyddogaethau, yn enwedig ei rôl o ysgogi gwelliant parhaus yn sector y rheilffyrdd; a
  • Canfod cyfleoedd i fireinio neu ymestyn gwaith yr ombwdsmon, er enghraifft drwy awgrymu ffyrdd gwahanol o weithio.

Cyfrifoldebau’r Paneli yw rhoi mewnbwn a chyngor, er mwyn cyflawni’r amcanion a nodir uchod. Rôl cynghori sydd gan y Paneli ac felly ni allant orfodi Bwrdd Gwasanaeth y Dull Amgen o Ddatrys Anghydfodau’r Rheilffyrdd na’r Prif Ombwdsmon i weithredu o ganlyniad i gyngor y Paneli.

Cyd-ddiben y Paneli hyn sy’n Cynghori Sector y Rheilffyrdd yw cynnig arbenigedd hanfodol i’r Ombwdsmon er mwyn ei helpu i wella ac ehangu ar ei wybodaeth a’i ddealltwriaeth o sector y rheilffyrdd yn barhaus. Mae Cylch Gorchwyl pob Panel yn amodi y bydd yn cwrdd o leiaf dwywaith y flwyddyn, a chaiff crynodebau o Gofnodion y cyfarfodydd eu cyhoeddi ar wefan yr Ombwdsmon Rheilffyrdd. Mae’r Ombwdsmon Rheilffyrdd yn ceisio sicrhau y bydd y ddau banel yn cwrdd cyn unrhyw gyfarfod o’r Bwrdd a bydd yr adborth a geir yn eitem sefydlog ar yr agenda. Bydd Cadeiryddion (ac Is-gadeiryddion, fel sy’n briodol) y ddau banel yn cwrdd o leiaf dwywaith y flwyddyn i gydweithio ar unrhyw themâu neu ffrydiau gwaith a bydd y paneli’n cyd-gyfarfod unwaith y flwyddyn i rannu’r hyn a ddysgwyd a safbwyntiau gyda’r Bwrdd.

Cysylltu â ni

I gael gwybod mwy am ein hannibyniaeth a’n llywodraethiant, cysylltwch â ni.