Pryd allwch chi godi cwyn gyda ni?

Cyn y gallwn ystyried eich cwyn, rhaid ichi geisio datrys eich cwyn gyda’r Darparwr Gwasanaeth yn gyntaf. Dylech gysylltu â ni:

  • os nad yw wedi datrys eich cwyn cyn pen 40 diwrnod gwaith ar ôl iddo gael eich cwyn; neu
  • os ydych yn anfodlon ar ei ateb terfynol a gafwyd mewn llythyr/neges e-bost (a elwir weithiau “llythyr methiant i gytuno”).

Nodwch, oni fo amgylchiadau eithriadol, fod yn rhaid ichi gwyno wrthym ni cyn pen 12 mis ar ôl unrhyw ateb terfynol oddi wrth y Darparwr Gwasanaeth.