Beth allem ni ofyn ichi amdano?

Byddwn yn gofyn ichi esbonio wrthym ni, yn eich geiriau chi, beth ddigwyddodd, a beth yr hoffech i’r Darparwr Gwasanaeth wneud yn ei gylch.

Gan ddibynnu ar eich cwyn, mae’n bosibl y byddwn hefyd yn gofyn ichi gynnwys pethau fel:

  • copïau o ohebiaeth (llythyrau, negeseuon e-bost, negeseuon testun) am y gŵyn (gan gynnwys os ydych wedi cael llythyr “methiant i gytuno” oddi wrth y Darparwr Gwasanaeth yn dweud na fydd yn mynd â hi ymhellach);
  • prawf eich bod wedi prynu tocyn;
  • prawf eich bod wedi archebu gwasanaeth ymlaen llaw: cadw sedd, cymorth mewn gorsaf ac yn y blaen;
  • unrhyw dderbynebau perthnasol;
  • dyddiadau ac amserau’r daith / teithiau;
  • cynigion neu atebion a gafwyd oddi wrth y Darparwr Gwasanaeth;
  • llwybrau neu gamau eraill a gymerasoch i osgoi costau neu oedi ychwanegol ar eich taith;
  • ffotograffau;  a/neu fideos a;
  • sgrinluniau.