Pa fath o gwynion ydym ni’n ymdrin â nhw?

Cewch ddod atom ni gydag unrhyw gŵyn sydd heb ei datrys ynghylch un o’r Darparwyr Gwasanaethau sy’n cymryd rhan yn ein cynllun os yw’n bodloni ein Rhestr Wirio Cymhwysedd.

Byddwn yn adolygu’ch cwyn ac yn penderfynu a yw’n rhywbeth y gallwn ninnau ymchwilio iddo, neu’n rhywbeth mae angen i sefydliad arall ymdrin ag ef.

Ein rôl ni yw ymchwilio i ansawdd y gwasanaeth a ddarparwyd ar sail yr ymrwymiadau mae Darparwr Gwasanaeth wedi’u gwneud i chi, a’ch hawliau fel defnyddiwr. Ni allwn ymchwilio i gwynion sy’n ymwneud â pholisïau neu reoliadau’r diwydiant.

Rydym yn ymdrin â chwynion am wasanaethau rheilffyrdd sy’n ymwneud â’r canlynol:

  • oedi i drenau a chanslo trenau;
  • gwerthu ac ad-daliadau tocynnau;
  • gwasanaeth cwsmeriaid;
  • materion sy’n ymwneud â diogelwch, fel gorlawnder;
  • gwybodaeth a roddwyd am deithiau neu waith peirianyddol;
  • argaeledd a mynediad at gyfleusterau mewn gorsafoedd gan gynnwys toiledau, lifftiau, grisiau symudol, ystafelloedd aros, parcio, storio beiciau, cyhoeddiadau, gwerthu tocynnau, ac eiddo coll;
  • ansawdd y gwasanaethau sydd ar gael ar drên gan gynnwys toiledau, bwyd a diod, gwresogi, aerdymheru, gwybodaeth, cyhoeddiadau, Wi-Fi, bwciadau blaenoriaeth a seddi cadw;
  • cymorth i deithwyr, cyfleusterau i gwsmeriaid ag anableddau, a chamwahaniaethu neu broblemau sy’n codi o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.