Cewch ddod atom ni gydag unrhyw gŵyn sydd heb ei datrys ynghylch un o’r Darparwyr Gwasanaethau sy’n cymryd rhan yn ein cynllun os yw’n bodloni ein Rhestr Wirio Cymhwysedd.
Byddwn yn adolygu’ch cwyn ac yn penderfynu a yw’n rhywbeth y gallwn ninnau ymchwilio iddo, neu’n rhywbeth mae angen i sefydliad arall ymdrin ag ef.
Ni ydym yn gallu ymchwilio i gwynion ynghylch:
- polisi cyhoeddus ar drafnidiaeth, preifateiddio neu sut mae’r diwydiant yn cael ei redeg;
- streiciau;
- sut mae llinell reilffordd yn effeithio ar eich cartref;
- apelio yn erbyn taliadau cosb neu ddirwyon parcio;
- cwynion yn ymwneud â chanlyniad camau disgyblu staff;
- cwynion mae sefydliad arall, fel y llysoedd, eisoes wedi ymdrin â nhw neu wrthi’n ymchwilio iddyn nhw;
- materion sydd y tu hwnt i reolaeth y Darparwr Gwasanaeth;
- os ydych eisoes wedi derbyn penderfyniad neu gynnig a wnaed gan y Darparwr Gwasanaeth;
- os ydych yn hawlio am golledion busnes;
- os ydych yn hawlio mwy na £2500 mewn iawndal; neu
- os yw’n ymwneud â rhywbeth a ddigwyddodd cyn i wasanaeth yr Ombwdsmon Rheilffyrdd gael ei sefydlu.
Os ydym ni’n credu nad yw’ch cwyn yn rhywbeth y gallwn ymchwilio iddo – byddwn yn esbonio’n glir pam. Byddwn hefyd, lle bo modd, yn awgrymu opsiynau gwahanol sydd ar gael neu’n trosglwyddo’ch cwyn i sefydliad arall a all, o bosibl, eich helpu ymhellach, fel Transport Focus neu London TravelWatch – y cyrff gwarchod annibynnol i’r diwydiant rheilffyrdd. Byddan nhw’n adolygu’ch cwyn yn annibynnol a, lle bo’n briodol, yn mynd ar ôl y mater ymhellach ar eich rhan.