Sut mae ein gwasanaeth yn hygyrch?

Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod ein gwasanaeth yn syml ac yn hawdd ei ddefnyddio, beth bynnag fo’ch anghenion. Os oes gennych chi unrhyw anghenion neu ddewisiadau penodol, rhowch wybod inni a byddwn yn gwneud addasiadau lle gallwn. Gallwch gysylltu â ni dros y ffôn neu ffôn testun, trwy e-bost, sgwrsio ar-lein neu Twitter (Cysylltwch â ni ).

Mae gwybodaeth am ein gwasanaeth ar gael yn y fformatau canlynol:

 print bras;
 Braille;
 hawdd ei ddeall; a
 sain

Gallwn hefyd roi gwybod ichi sut i gwyno wrthym ni os oes arnoch angen gwasanaethau cyfieithu neu Iaith Arwyddion Prydain. Dim ond eisiau gofyn sydd.