Faint o amser sydd gan y Darparwr Gwasanaeth i gydymffurfio â’n penderfyniadau ni?

Mae gan y Darparwr Gwasanaeth 20 diwrnod gwaith i gydymffurfio â’n penderfyniadau ni ar ôl y dyddiad yr ydych yn eu derbyn, oni chytunwyd gyda chi ar amserlen arall; yn yr achos hwn, honno fydd yn gymwys. Os yw’r penderfyniad yn cynnwys ad-daliad, rhaid i’r Darparwr Gwasanaeth gwblhau’r ad-daliad cyn pen 10 diwrnod gwaith ar ôl ichi ei dderbyn (os ydych wedi rhoi’r manylion angenrheidiol fel y gellir gwneud taliad).