Beth os nad ydych chi’n cytuno â’n penderfyniad?

Rydym yn ceisio bod yn deg ac yn rhesymol bob amser. Fodd bynnag, efallai y byddwch yn anghytuno â ni. Mae perffaith hawl gennych i wneud hynny. Fodd bynnag, unwaith mae penderfyniad wedi cael ei wneud, mae’r achos wedi’i gau. Ni fyddwn yn gallu eich helpu rhagor, ond gallwn eich cynghori ynghylch beth arall y gallwch ei wneud: er enghraifft, cymryd camau cyfreithiol trwy’r llysoedd.