Beth sy’n digwydd os na allwn fynd â’ch cwyn ymhellach?

Os na allwn ymdrin â’ch cwyn, byddwn yn rhoi gwybod ichi pam na allwn wneud hynny. Byddwn hefyd, lle bo modd, yn awgrymu opsiynau gwahanol sydd ar gael neu’n trosglwyddo’ch cwyn i sefydliad arall a all, o bosibl, eich helpu ymhellach. Er enghraifft, gallai hyn fod yn un o gyrff gwarchod y diwydiant – fel Transport Focus neu London TravelWatch. Os gwnawn hyn, ein nod fydd trosglwyddo’ch cwyn cyn pen pum diwrnod gwaith.

. Ar ôl iddi gael ei throsglwyddo, byddwn yn cau’ch achos.