Cwynion am ein gwasanaeth ni
Os ydych chi’n teimlo nad yw’r gwasanaeth a gawsoch gan yr Ombwdsmon Rheilffyrdd wedi cyrraedd y safonau y byddech yn eu disgwyl, gallwch godi cwyn ffurfiol.
Yn y lle cyntaf gallwch gyfleu’ch cwyn dros y ffôn neu mewn llythyr neu neges e-bost. I ddechrau ymdrinnir â hi gan y person sy’n trin eich achos neu’ch ymholiad (os nad oes achos wedi cael ei godi).
Os ydych chi’n dal i fod yn anfodlon ar yr ateb rydych wedi’i gael, cewch godi’r gŵyn i lefel uwch reolwr. Gallwch gyfleu hyn dros y ffôn neu mewn llythyr neu neges e-bost. Caiff adolygiad llawn o’r gŵyn ei gyflawni a chaiff ateb ei roi cyn pen 15 diwrnod gwaith.
Os ydych chi’n dal i fod yn anfodlon ar ôl cael yr ateb yn dilyn yr adolygiad gan yr uwch reolwr, gallwch gysylltu â’n Haseswr Annibynnol a all ymchwilio i’ch pryderon. Bydd yr uwch reolwr yn rhoi gwybod ichi sut i gysylltu â’r Aseswr Annibynnol.
Dylech fod yn ymwybodol nad proses apeliadau yw hon ac er yr ymchwilir yn llawn i’ch cwyn, ni all yr Ombwdsmon gael ei orfodi i wrthdroi ei benderfyniad. Mae’r cwsmer bob amser yn cadw’r hawl i fynd ar ôl y mater trwy sianelau eraill os yw’n dal i fod yn anfodlon ar y dyfarniad.
Os byddwch chi’n dal i fod yn anfodlon â’n gwasanaeth ar ôl inni adolygu eich cwyn, gallwch gysylltu â’r Aseswr
Annibynnol.