Hygyrchedd

Y broblem

Teithiodd y defnyddiwr gyda’i ferch gan ddychwelyd o ymweliad â’r theatr yn hwyr y nos. Roedden nhw wedi gwirio’r wybodaeth am hygyrchedd yr orsaf cyn teithio ac wedi deall bod y lifft ar gael yn yr orsaf roedden nhw’n teithio iddi o’r trên cyntaf i’r trên olaf, gan y byddai angen hwn er mwyn i ferch y defnyddiwr fynd o’r platfform.

Pan gyrhaeddon nhw am 23.30, nid oedd y lifft ar gael i’w ddefnyddio ac roedd arwydd yn dweud nad oedd wedi bod yn gweithio ers 20.45. Nid oedd neb ar gael trwy’r man gwybodaeth felly bu’n rhaid i’r defnyddiwr gario ei ferch ar hyd y grisiau allan o’r orsaf a bu’n rhaid i’w bartner gario ei chadair olwyn.

Yr hawliad

Roedd y defnyddiwr yn pryderu am eu diogelwch (oherwydd fel arall bydden nhw wedi cael eu gadael ar y platfform ym mis Rhagfyr) ac am ddiogelwch teithwyr eraill, a hefyd am yr effaith a gafod hyn ar ei ferch.

Yr ymateb

Wrth ymateb dywedodd y Darparwr Gwasanaeth Rheilffordd na ellid gweithio’r lifft pan nad oedd staff yn yr orsaf oherwydd pryderon ynghylch diogelwch gan nad oedd modd ei gyrchu o bell. Esboniodd nad oedd staff yn yr orsaf ar y pryd oherwydd prinder staff. Newidiodd y wybodaeth ar ei wefan, ymddiheurodd a chynigiodd daleb werth £50.

Yr hyn wnaeth yr Ombwdsmon

Siaradodd staff yr Ombwdsmon Rheilffyrdd â’r Darparwr Gwasanaeth Rheilffordd gan ein bod yn teimlo ei bod yn bwysig i’r defnyddiwr a’i ferch deimlo’n hyderus ynghylch teithio eto, ar ba adeg bynnag o’r dydd. Cyflwynodd y Darparwr Gwasanaeth Rheilffordd gynnig arall yn y broses datrys gan ddweud yr hoffai ymddiheuro’n ddiffuant am y digwyddiad a’i fod yn cydnabod pa mor ddifrifol oedd y mater. At hynny, erbyn hyn mae wedi newid ei brosesau fel y bydd cyhoeddiadau fel mater o drefn ar y trenau sy’n mynd trwy’r orsaf, yn rhoi gwybod am y diffyg cyfleusterau y tu allan i’r oriau staffio ac y bydd tacsis ar gael mewn gorsafoedd eraill. Mae hefyd wedi cadarnhau bod yr oriau staffio, ac felly yr oriau mae’r lifft ar gael, wedi cael eu diweddaru ar ei wefan. I gydnabod yr effaith mae’r digwyddiadau wedi’i chael ar y defnyddiwr a’i ferch, cynigiodd hefyd werth £50 o iawndal ar ffurf siec, £14.75 i dalu am gost y tocynnau trên ar y diwrnod hwnnw a dywedodd yr hoffai anfon tusw o flodau fel ymddiheuriad arall.

Cyflwynwyd y cynnig hwn i’r defnyddiwr a esboniodd nad iawndal oedd wedi ysgogi’r gŵyn ac y byddai’n rhoi holl swm yr iawndal i elusen sy’n arbenigo mewn materion sy’n ymwneud â hygyrchedd ac anabledd. Roedd y defnyddiwr yn pryderu fwyaf am sut yr oeddid yn ymdrin ag unrhyw broblemau eraill o ran hygyrchedd a bod unrhyw gyfrifoldebau parhaus yn cael eu cyflawni. Roedd yn fodlon ar y cynnig ond yn meddwl y gallai’r Darparwr Gwasanaeth Rheilffordd gynyddu swm yr iawndal a ddyfarnwyd.

Cyfleodd yr Ombwdsmon Rheilffyrdd hyn i’r Darparwr Gwasanaeth Rheilffordd ac esboniodd fod lle i newid y dyfarniad.

Y canlyniad

Cytunodd y Darparwr Gwasanaeth Rheilffordd â’r Ombwdsmon ac roedd yn fodlon cynyddu’r cynnig i £100. Derbyniodd y defnyddiwr y cynnig.

Adborth

Dywedodd y defnyddiwr fod yr Ombwdsmon Rheilffyrdd wedi bod o gymorth mawr wrth ddatrys yr anghydfod ac roedd eisiau i’r Ombwdsmon Rheilffyrdd wybod bod ei waith wedi bod o gymorth hynod werthfawr i deithwyr oedd ag anghenion o ran anabledd a hygyrchedd.

© Hawlfraint - Dispute Resolution Ombudsman
Cyfeiriad cofrestredig: Richmond House, Walkern Road, Stevenage, Hertfordshire, SG1 3QP. Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr, Rhif Cwmni 08945616.