Methu Cyfweliad am Swydd

Y broblem

Roedd y defnyddiwr i fod i deithio ar y trên 17.12 o un o derfynfeydd Llundain i’r orsaf yr oedd yn arfer teithio iddi, taith o ryw awr ar drên cyflym. Fodd bynnag, y tro hwn roedd angen iddi adael y trên ymhellach ar hyd y llinell felly roedd yn bwriadu defnyddio trên araf ar y diwrnod hwnnw er mwyn mynd i gyfweliad am swydd.

Yr hawliad

Roedd y defnyddiwr yn hawlio ad-daliad am oedi oherwydd yr oedi ar ei thaith.

Yr ymateb

Ymatebodd y Darparwr Gwasanaeth Rheilffordd gan ddweud ei bod hi, wrth wneud cais am iawndal Ad-daliad am Oedi, wedi dweud mai ei thaith oedd ei thaith gymudo arferol yr oedd ganddi docyn tymor ar ei chyfer, gan deithio ar y trên 17.12, sef ei thrên arferol. Ar sail y wybodaeth hon, meddai, roedd y tîm Ad-daliad am Oedi wedi gwrthod yr hawliad yn gwbl gywir, gan fod yr oedi’n llai na 30 munud. Ar sail ei thaith gymudo arferol, gallai’r defnyddiwr fod wedi dal trên cyflym a chyrraedd ei chyrchfan gyda llai na 30 munud o oedi. Fodd bynnag, wrth ymdrin â’i chwyn, cydnabu’r Darparwr Gwasanaeth Rheilffordd fod ei hymateb dilynol, lle esboniodd pam y bu’n rhaid iddi adael y trên mewn gorsaf wahanol y tro hwnnw, wedi bod yn agored i gael ei gamddehongli. Gwnaeth gynnig yn y broses cyfryngu.

Y cyfryngu

Cadarnhaodd y Darparwr Gwasanaeth Rheilffordd, pe bai’r defnyddiwr wedi nodi’r wir daith yn ei hawliad am Ad-daliad am Oedi, y byddai wedi bod â hawl i £9.90 fel iawndal. Mae hyn wedi’i seilio ar oedi o fwy nag awr ar ei thaith. At hynny, talgrynnodd ei thaliad i £20 er mwyn ymddiheuro am y negeseuon e-bost ychwanegol y bu’n rhaid iddi eu hanfod gan y teimlai y gellid bod wedi ymdrin â’r mater hwn yn llwyddiannus pan roddodd hi fwy o wybodaeth.

Y canlyniad

Derbyniodd y defnyddiwr y cynnig ar ffurf siec a chafodd yr achos ei gau yn sgil cyfryngu llwyddiannus.

Nodyn i Ddefnyddwyr: Ni wnaeth y defnyddiwr yn yr astudiaeth achos hon hawliad am golli cyfle (oherwydd na lwyddodd i gyrraedd ei chyfweliad am swydd). Ni fyddai’r Ombwdsmon Rheilffyrdd yn ystyried dyfarniad o’r fath, gan y bydd llwyddiant cyfweliad am swydd yn dibynnu ar lawer o ffactorau eraill sydd y tu allan i reolaeth y Darparwr Gwasanaeth Rheilffordd.

© Hawlfraint - Dispute Resolution Ombudsman
Cyfeiriad cofrestredig: Richmond House, Walkern Road, Stevenage, Hertfordshire, SG1 3QP. Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr, Rhif Cwmni 08945616.