Tocyn Aml-foddol
Y broblem
Roedd y defnyddiwr wedi bwriadu teithio gan ddefnyddio tocyn aml-foddol sy’n caniatáu i deithwyr ddefnyddio unrhyw fws neu drên mewn ardal benodol. Cafodd y trên yr oedd wedi bwriadu teithio arno yn wreiddiol ei ganslo, a chysylltodd y defnyddiwr â ni oherwydd ei fod wedi dioddef oedi.
Yr hawliad
Roedd y defnyddiwr eisiau hawlio Ad-daliad am Oedi.
Yr ymateb
Dywedodd y Darparwr Gwasanaeth Rheilffordd nad yw Ad-daliad am Oedi yn berthnasol yn awtomatig ar hyn o bryd i docynnau o’r math hwn gan nad ydynt yn cael eu gwerthu gan y cwmni trên. Fodd bynnag, dywedir wrth ddefnyddwyr y bydd darparwyr gwasanaethau rheilffordd o bosibl yn ystyried hawliadau yn ôl eu rhinweddau fel rhan o’r ymrwymiadau yn eu Siarter Teithwyr.
Roedd y Darparwr Gwasanaeth Rheilffordd wedi ymddiheuro o’r blaen i’r defnyddiwr ond roedd wedi gwrthod yr hawliad am Ad-daliad am Oedi a/neu wneud unrhyw gynigion eraill fel rhan o broses cyfryngu’r Ombwdsmon Rheilffyrdd.
Ein gwerthusiad
Aeth yr hawliad ymlaen i’r cam dyfarnu lle gofynnodd yr Ombwdsmon am fwy o fanylion gan y defnyddiwr ynghylch ei daith ymlaen. Cadarnhaodd y defnyddiwr ei fod wedi gwneud ei drefniadau ei hun ar gyfer ei daith ymlaen ac nad oedd wedi dioddef unrhyw golled ariannol. Ni allai ychwaith gadarnhau manylion yr oedi a ddioddefodd.
Nododd yr Ombwdsmon mai tocyn aml-foddol oedd hwn oedd yn cynnwys opsiynau eraill o ran trafnidiaeth. Roedd y Siarter Teithwyr yn glir wrth eithrio tocynnau aml-foddol a rhoddodd esboniad ynghylch hyn. Fodd bynnag, yn ddamcaniaethol gallai’r darparwr gwasanaeth ddefnyddio’r un meini prawf ag Ad-daliad am Oedi i asesu’r iawndal am yr elfen rheilffyrdd, er nad oes hawl i iawndal wrth ddal y tocyn hwn o dan y cynllun penodol hwnnw. Barnwyd hefyd bod natur y tocyn yn caniatáu ar gyfer gwrthgyfrifiad gan drafnidiaeth amgen o fath arall.
Fodd bynnag, ystyriodd yr Ombwdsmon hefyd a oedd yn briodol yn yr amgylchiadau hynny i wneud dyfarniad cyfwerth ag ad-daliad am oedi oedd yn dyblygu disgresiwn y Darparwr Gwasanaeth Rheilffordd, gan ofyn a oedd y Darparwr Gwasanaeth Rheilffordd yn anghywir wrth beidio ag arfer ei ddisgresiwn ar sail ffeithiau’r hawliad? Gall yr Ombwdsmon gymryd llawer o ffactorau i ystyriaeth, rhai cyfreithiol a rhai nad ydynt yn gyfreithiol, wrth wneud penderfyniad ar sail ffeithiau pob achos.
Yn yr achos hwn, roedd y defnyddiwr wedi cymryd camau i leihau ei golledion ac nid oedd wedi mynd i gostau ychwanegol wrth wneud hynny. Gan nad oedd modd inni ganfod a oedd trothwy Ad-daliad am Oedi wedi’i gyrraedd yn nhermau unrhyw amser ychwanegol a gymerwyd, nid oedd modd inni wneud dyfarniad i gydnabod unrhyw amser a thrafferth. Felly daethom i’r casgliad nad oedd y Darparwr Gwasanaeth Rheilffordd wedi gweithredu’n anghywir.
Nodyn i ddefnyddwyr: wrth gysylltu â’r Ombwdsmon, dylech ddarparu cymaint o wybodaeth ag sydd ar gael gennych. Yn yr achos uchod, pe bai’r defnyddiwr wedi dioddef colled ariannol o ganlyniad i ganslo’r trên a/neu wedi darparu mwy o fanylion ynghylch holl amser yr oedi, gallem fod wedi ystyried dyfarniad, beth bynnag oedd natur y tocyn.