Hygyrchedd i’r Ombwdsmon Rheilffyrdd
Mae ein gwybodaeth ar gael yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Rydym hefyd yn croesawu ymholiadau, cwynion a cheisiadau mewn gwahanol fformatau. Dywedwch wrthym beth sydd ei angen arnoch, a byddwn yn darparu’r wybodaeth cyn gynted â phosibl. Gall hyn gynnwys y canlynol:
- Braille
- Print bras
- Sgwrs lafar / ar y ffôn
- Fformat Hawdd ei Ddarllen
- Fformat digidol neu gopi caled
- Papur lliw neu liwiau cyferbyniol
- Galwad fideo (yn ystod cyfryngu yn unig)
- Iaith Arwyddion Prydain
- Cyfieithiad i’r Gymraeg