Darparwyr gwasanaeth sy’n cymryd rhan yn ein cynllun
Cyn y gallwn helpu, rhaid rhoi cyfle i’r darparwr gwasanaeth ddatrys y gŵyn cyn y daw atom ni. Mae gan bob darparwr gwasanaeth weithdrefn ymdrin â chwynion sy’n nodi’r broses y dylech ei dilyn os oes gennych gŵyn ynghylch unrhyw agwedd ar ei wasanaeth. I weld gweithdrefn ymdrin â chwynion, cliciwch ar logo’r darparwr gwasanaeth.
Nodwch na allwn ymchwilio i’ch cwyn ond os yw’r darparwr gwasanaeth yn rhan o’n cynllun – gallwch wirio hynny isod. Os nad yw’ch cwyn ynghylch darparwr gwasanaeth sy’n cymryd rhan yn ein cynllun, mae’n bosibl y byddwn yn gallu rhoi gwybod ichi ble y gallwch fynd â hi nesaf. Er enghraifft, gallech fynd at un o gyrff gwarchod y diwydiant – fel Transport Focus neu London Travel Watch.
Nodwch
* Mae Network Rail yn rhan o’r gwasanaeth mewn perthynas â’r gorsafoedd mae’n eu rheoli.
Os nad ydych yn siŵr ynghylch pwy mae’ch cwyn, cysylltwch â’r darparwr gwasanaeth y teithiasoch gydag ef (neu yr ydych yn meddwl y gallai’ch cwyn fod yn ei gylch) ac fe ddylai allu helpu i’ch cyfeirio.
Mae nifer o orsafoedd a weithredir gan London Underground, y mae cwmnïau trên hefyd yn eu defnyddio, yn rhan o’r gwasanaeth. Y gorsafoedd yw:
Amersham | Highbury & Islington | Seven Sisters |
Blackhorse Road | Kensal Green | South Kenton |
Chalfont & Latimer | Kenton | South Ruislip |
Chorleywood | Kentish Town | Stonebridge Park |
Farringdon | Kew Gardens | Stratford |
Greenford | Moorgate | Walthamstow Central |
Gunnersbury | North Wembley | Wembley Central |
Harlesden | Old Street | West Brompton |
Harrow & Wealdstone | Queen’s Park | West Ham |
Harrow on the Hill | Rickmansworth | West Ruislip |
Mae ein cylch gwaith yn cynnwys digwyddiadau yn y gorsafoedd hyn yn unig. Os yw eich cwyn yn ymwneud ag unrhyw agwedd arall ar London Underground, fel gorsaf arall neu wasanaeth, dylech gysylltu â Transport for London.
Gall yr Ombwdsmon Rheilffyrdd dderbyn anghydfod mewn perthynas â London Overground, TfL Rail a gorsafoedd London Underground a restrir uchod, lle mae’r anghydfod yn ymwneud â digwyddiad ar neu ar ôl 1 Ebrill 2022.
Gall yr Ombwdsmon Rheilffyrdd dderbyn anghydfod mewn perthynas â Heathrow Express lle mae’r anghydfod yn ymwneud â digwyddiad ar neu ar ôl 1 Tachwedd 2022.