Ein Pobl
Mae ein tîm ymroddedig ac angerddol wedi dod i’r Ombwdsmon fel arbenigwyr yn eu maes. Mae pob un o’r Ombwdsmyn yn weithwyr proffesiynol sydd â chymwysterau cyfreithiol ac mae llawer ohonynt wedi ennill gradd meistr neu’n astudio ar ei chyfer. Mae pob swyddog Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod yn cael ei benodi ar sail barhaol yn dilyn asesiad cadarn ac maent yn dilyn rhaglenni dysgu a datblygiad parhaus.
Gyda’i Gadeirydd annibynnol a mwyafrif o’i Aelodau mewn rolau Anweithredol, y Bwrdd sy’n gyfrifol am benodi’r Prif Ombwdsmon ac am lywodraethu.
Ein Tîm Gweithredol

Prif Weithredwr a'r Prif Ombwdsmon

LL.B (Hons), PGDip, ACIArb
Penodwyd Kevin yn 2008 ac mae'n gyfrifol am gyfarwyddo gweithgareddau'r Ombwdsmon. Astudiodd y gyfraith yn y brifysgol am dair blynedd a graddiodd gydag anrhydedd, cyn astudio i fod yn fargyfreithiwr yn Llundain yn Ysgol y Gyfraith Ysbytai’r Brawdlys. Fe’i galwyd i’r Bar gan Anrhydeddus Gymdeithas y Deml Fewnol ar ôl llwyddo yn ei arholiadau bargyfreithiwr. Mae ganddo hefyd gymhwyster proffesiynol Sefydliad Siartredig y Cymrodeddwyr (CIArb). Ar ôl gwasanaethu am gyfnod o bedair blynedd rhwng 2015 a 2019, yn 2021 ail-etholwyd Kevin i Fwrdd Cyfarwyddwyr Cymdeithas yr Ombwdsmon, sef corff sy’n cynghori’r llywodraeth ac yn helpu i oruchwylio sefyllfa’r ombwdsmyn a thrin chwynion ar draws y DU, Iwerddon, Tiriogaethau Tramor Prydeinig a Thiriogaethau Dibynnol y Goron. Ym mis Tachwedd 2018, gwahoddwyd Kevin i ymuno â Bwrdd yr Ymddiriedolwyr Cyngor ar Bopeth yn Stevenage.
Mae gan Kevin ddau gyfrifoldeb – mae’n gwasanaethu hefyd (ers 1 Ionawr 2022) fel Prif Ombwdsmon yr Ombwdsmon Pêl-droed Annibynnol ("IFO"), cynllun a sefydlwyd gan yr awdurdodau pêl-droed (Y Gymdeithas Bêl-droed, yr Uwch Gynghrair, a'r Gynghrair Bêl-droed) i dderbyn a dyfarnu ar gwynion nad ydynt wedi'u datrys yn gynharach. Cyn y penodiad hwn, roedd Kevin yn aelod o Fwrdd Cynghori'r Ombwdsmon Pêl-droed Annibynnol rhwng 2015 a 2021 lle bu'n cynghori ei ragflaenydd ar achosion ym maes pêl-droed a’r gweithdrefnau ar gyfer datrys anghydfodau.
Mae gan Kevin ddiddordeb brwd mewn materion defnyddwyr ac mae wedi ymddangos sawl gwaith ar y teledu, radio ac yn y wasg i roi barn arbenigol ar ystod o faterion sy'n effeithio ar ddefnyddwyr. Mae ganddo ddealltwriaeth arbenigol o gyfraith defnyddwyr ac mae wedi ysgrifennu a chyflwyno cyfres o gyrsiau a seminarau achrededig yn y maes hwn.
Cyn dod i’w swydd bresennol cyflogwyd Kevin am ddwy flynedd fel cwnsler cyfreithiol mewnol mewn busnes ardystio a phrofi byd-eang. Yn 2005, roedd yn rhan o'r tîm o gynghorwyr a sefydlodd Glinig y Gyfraith Prifysgol Hertfordshire, canolfan gyngor cyfreithiol pro bono a wasanaethodd y gymuned leol. Mae gyrfa flaenorol Kevin yn cynnwys swyddi nad oeddent yn ymwneud â’r gyfraith na datrys anghydfodau - mewn manwerthu, y diwydiant ariannol ac ym maes gemau ar-lein.
Kevin a'i gydweithiwr, y Dirprwy Brif Ombwdsmon Judith Turner, yw cyd-awduron Cyfrol 28 o ‘Atkin's Court Forms and Precedents on Ombudsman schemes in England and Wales’. Fe'i cyhoeddwyd gan LexisNexis yn 2020, ac mae'n rhan o unig wyddoniaduron y DU o ffurflenni, cynseiliau a gweithdrefnau ymgyfreitha sifil ac mae'n awdurdod blaenllaw ar y broses y dylid ei dilyn.

Dirprwy Brif Ombwdsmon

LL.B (Hons), PGDip, ACIArb, Solicitor
Astudiodd Judith y Gyfraith yn King’s College, Llundain am dair blynedd cyn graddio gydag anrhydedd yn 1998. Aeth ymlaen i gwblhau'r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (LPC) a chontract hyfforddi cyn cymhwyso fel cyfreithiwr yn 2001. Cyn hynny, roedd hi'n cael ei chyflogi gan gwmni City Law, gan ymdrin â Chyfraith Fasnachol. Ymunodd Judith â'r Ombwdsmon yn 2011 ac mae bellach yn arbenigo mewn Dulliau Amgen o Ddatrys Anghydfodau.
Ers iddi gael ei phenodi, mae Judith wedi ysgrifennu a chyflwyno amrywiaeth eang o gyrsiau hyfforddi achrededig ar Gyfraith Defnyddwyr a Chydymffurfiaeth, wedi'u teilwra i'r sectorau y mae'r Ombwdsmon yn gweithredu ynddynt. Bydd Judith yn aml yn annerch cynadleddau a digwyddiadau i’r diwydiant ac i ombwdsmyn. Judith yw Cadeirydd presennol Rhwydwaith Polisi Cymdeithas yr Ombwdsmyn ac mae'n aelod o Banel Cyswllt Dull Amgen o Ddatrys Anghydfodau’r Cyngor Cyfiawnder Sifil. Mae hi wedi ysgrifennu'n helaeth ar faterion Dull Amgen o Ddatrys Anghydfodau a materion defnyddwyr a hi yw cydawdur y deunydd a gyhoeddir cyn bo hir ar ran yr Ombwdsmon yn Atkins Court Forms.


Cadeirydd Anweithredol Annibynnol
Mae gan John Peerless dros 40 mlynedd o brofiad ym maes amddiffyn defnyddwyr. Ar ôl cymhwyso fel Arolygydd Pwysau a Mesurau, daeth yn Bennaeth Safonau Masnach Cyngor Dinas Brighton a Hove. Bu'n arwain tîm twyll rhanbarthol (SCAMBUSTERS) am gwpl o flynyddoedd cyn dychwelyd i Brighton a Hove yn 2011. Bellach, John yw ei Prif Swyddog Safonau Masnach gyda chyfrifoldeb arbennig am fynd i'r afael â masnachu twyllodrus.
Mae wedi bod mewn nifer o swyddi blaenllaw, gan gynnwys Cadeirydd Cymdeithas y Prif Swyddogion Safonau Masnach, Llywydd Undeb Credyd lleol ac aelod o Fwrdd y Rhwydwaith Cenedlaethol Atal Twyll. Daeth yn Gymrawd o'r Sefydliad Safonau Masnach Siartredig ac mae hefyd yn gyn-Gadeirydd. Mae John yn ddylanwadol ac uchel ei barch yn y byd Safonau Masnach. Mae wedi parhau i gefnogi defnyddwyr trwy ddod yn aelod o Fwrdd Sefydliad Gosod Ceginau ac Ystafelloedd Ymolchi Prydain yn ogystal â'r sefydliad hwn. Yn gefnogwr rygbi brwd mae bellach yn hyfforddwr pêl-droed iau ac yn rheoli tîm dan 11 oed.


Cyfarwyddwr Anweithredol Annibynnol
Ymunodd Jonny â’r Bwrdd fel Cyfarwyddwr Anweithredol yn 2019. Bu’n Glerc ac yn Brif Weithredwr ar y Cwmni Gwneuthurwyr Dodrefn ers 2012 ac mae hefyd yn Gyfarwyddwr ar Gymdeithas Bensiwn y Lluoedd Arfog ar hyn o bryd. Un o’i swyddi blaenorol oedd rhedeg FIRA International. Mae ganddo MBA o Brifysgol Cranfield a diploma mewn Marchnata.


Cyfarwyddwr Anweithredol Annibynnol
Mae James yn Uwch Swyddog Gweithredol ar Rightly, sef Gwasanaeth i ddefnyddwyr gael perchnogaeth ar eu data. Mae hefyd yn Uwch Swyddog Gweithredol JamDoughnut, gwasanaeth meithrin ffyddlondeb defnyddwyr, ac yn swyddog gweithredol i’r Collaboration Network, arbenigwr defnyddwyr i’r Swyddfa Ffyrdd a Rheilffyrdd.
James yw sylfaenydd Resolver.co.uk hefyd. Gwasanaeth cwynion ar-lein am ddim yw hwnnw, a sefydlwyd gan James i helpu dros 18 miliwn o ddefnyddwyr y flwyddyn i ddatrys eu hanghydfodau. Mae wedi cynghori’r Llywodraeth ar faterion defnyddwyr ac fe gynorthwyodd Lywodraeth yr Alban i Ddatblygu eu strategaeth ‘Consumer Scotland’.
Yn enillydd Entrepreneur Cymdeithasol y flwyddyn, mae James yn swyddog anweithredol ar gyfer nifer o fusnesau newydd. Ei ffocws yw helpu busnesau i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid sy'n arwain y farchnad, wrth helpu defnyddwyr i ddeall ac arfer eu hawliau.
Mae James wedi ysgrifennu colofn ar gyfer tri phapur newydd cenedlaethol.


Cyfarwyddwr Cyllid
Mae Richard wedi bod yn gweithio i'r Ombwdsmon Datrys Anghydfodau ers 2019, yn bennaf ar faterion yn ymwneud â rheolaeth ariannol y contract rheilffyrdd. Graddiodd gyda BA (Anrh) mewn Astudiaethau Busnes o Brifysgol Northumbria ym 1990.
Yn 1992, daeth yn aelod o’r Gymdeithas Cyfrifwyr Cost a Rheolaeth (ACMA). Mae wedi gweithio i amryw o frandiau, gan gynnwys penodiad rhyngwladol gyda Gillette yn Boston Massachusetts, mewn rolau â chyfrifoldeb cynyddol yn y Swyddogaeth Gyllid. Bu Richard yn gweithio i Apple rhwng 2001 a 2016 mewn amryw o swyddi Rheolwr Ariannol ar draws y DU, gwledydd Llychlyn, Ffrainc, yr Almaen ac yn y Busnes Ar-lein Traws-Ewropeaidd.


Arsylwr y Bwrdd
Daw Gobi â phrofiad helaeth o deithio yn y DU ac yn rhyngwladol i’r Bwrdd.
Wedi graddio ag anrhydedd mewn Peirianneg gyda Chymorth Cyfrifiadur o Brifysgol Hertfordshire, defnyddiodd ei sgiliau dylunio gyda chymorth cyfrifiadur i ddechrau ei yrfa gwaith ym maes Peirianneg Sifil. Dechreuodd Gobi fel technegydd Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur cyn datblygu ei sgiliau a’i brofiad i fod yn Beiriannydd Priffyrdd. Mae wedi gweithio mewn agweddau gwahanol ar y sector hwn ac mae ganddo fwy na 15 mlynedd o brofiad fel ymgynghorydd ac fel cleient.
Mae gan Gobi hefyd brofiad helaeth a llwyddiant ym maes chwaraeon.
Gyda’i frwdfrydedd i oresgyn ei anabledd, mae wedi gwneud ei ffordd trwy lwybrau cystadleuol chwaraeon, ac mae’n gwybod pa rinweddau sydd eu hangen er mwyn llwyddo. Gan ddechrau ar lefel llawr gwlad a lefel clwb, aeth ymlaen i gynrychioli Lloegr ar lefel ryngwladol mewn dwy gamp. Gan ddechrau fel para-nofiwr yn ei flynyddoedd iau, trosglwyddodd Gobi i chwarae para-badminton, ac mae ei lwyddiannau’n cynnwys medal Aur ym Mhencampwriaeth Ewrop, medal Arian ym Mhencampwriaeth y Byd, ac roedd yn Glydwr y Fflam Olympaidd yng ngemau Llundain 2012. Mae’n dal i gynrychioli Lloegr ac mae ei yrfa bellach wedi para mwy na 15 mlynedd.
Mae ei gampau rhyngwladol ym maes Badminton wedi helpu ei yrfa gwaith hefyd. Mae ei brofiad o deithio ar awyrennau’n fyd-eang wedi golygu ei fod yn gynrychiolydd Teithwyr â Llai o Symudedd ar bwyllgor ymgynghorol maes awyr Stansted (STACC).
Mae awydd Gobi i geisio ysbrydoli eraill wedi cynnig sawl cyfle iddo rannu ei brofiadau a rhoi cyngor i’r rhai sydd ei angen. Yn ei yrfa chwaraeon a’i yrfa broffesiynol, mae Gobi’n ceisio annog pobl, yn enwedig rhai yng nghymuned pobl ag anableddau, i gyflawni i’r eithaf. Bellach mae’n Aelod o Fwrdd Gweithredol partneriaeth chwaraeon Hertfordshire. Mae hefyd yn un o ymddiriedolwyr elusen
Anders Disability Badminton (ADBC), sy’n cefnogi chwaraewyr badminton drwy helpu i lenwi’r bwlch rhwng badminton llawr gwlad a’r llwybr cystadleuol.


Arsylwr y Bwrdd
Ar ôl ennill gradd mewn economeg ar ddechrau’r 2000au, aeth Helen yn syth i weithio yn y sector ariannol gydag elusen ddyled Stepchange (y Gwasanaeth Cwnsela Credyd Defnyddwyr ar y pryd) sy’n helpu pobl mewn dyled i gynllunio ffyrdd allan ohoni. Parhaodd Helen i weithio i gwmnïau sy’n helpu’r defnyddiwr, yn fwyaf diweddar gyda’r wefan sy’n ymgyrchu dros ddefnyddwyr, MoneySavingExpert. Bu Helen yn gwneud sawl swydd yno, ac mae’n un o ddirprwy olygyddion y wefan ar hyn o bryd.