Ein Hanes
Yn dilyn addewid y Llywodraeth yn ei maniffesto i sefydlu Ombwdsmon yn sector y rheilffyrdd, cafodd y Dispute Resolution Ombudsman ei benodi yn 2018 i ddarparu’r gwasanaeth ombwdsmon rheilffyrdd cyntaf erioed ym Mhrydain. Nod y gwasanaeth hwn yw darparu gwasanaeth arbenigol di-dâl i ddefnyddwyr, i ymchwilio i gwynion sydd heb eu datrys ynghylch cwmnïau trên a darparwyr gwasanaethau rheilffyrdd sy’n cymryd rhan yng ngwasanaeth yr Ombwdsmon Rheilffyrdd.
Lansiwyd gwasanaeth yr Ombwdsmon Rheilffyrdd ar 26 Tachwedd 2018.
2023
Yr Ombwdsmon Rheilffyrdd yn dechrau gweithredu dan gontract newydd a noddwyd gan y rheolydd, y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd.
2018: Sefydlu’r Ombwdsmon Rheilffyrdd
Yn dilyn addewid y Llywodraeth yn ei maniffesto i gyflwyno ombwdsmon teithwyr i gefnogi buddiannau defnyddwyr y rheilffyrdd sy’n cael bargen wael, cydnabuwyd ein gwaith mewn llawer o feysydd cymhleth wrth inni gael ein penodi yn 2018 i ddarparu’r gwasanaeth Ombwdsmon Rheilffyrdd cyntaf erioed ym Mhrydain.
2018: Sefydlu’r Ombwdsmon Rheilffyrdd
2017: Pen-blwydd yn 25 oed
Nododd yr Ombwdsmon 25 mlynedd o arbenigedd mewn darparu gwasanaethau dull amgen o ddatrys anghydfodau, gan ddatrys miloedd o anghydfodau a gwella dealltwriaeth o faterion yn ymwneud â chyfraith a diogelu defnyddwyr ar draws nifer o sectorau.
2015: ffurfio’r Gynghrair Diogelu Defnyddwyr
Yn 2015, ynghyd â’r Gofrestr Diogelwch Nwy, NICEIC a Which? sefydlodd yr Ombwdsmon y Gynghrair Diogelu Defnyddwyr i helpu i ddarparu cyngor i ddefnyddwyr ar ymwybyddiaeth o beryglon yn y cartref.
2015: ffurfio’r Gynghrair Diogelu Defnyddwyr
Dispute Resolution Ombudsman
Wrth i’r sefydliad dyfu ac ymestyn ei gyrhaeddiad, creodd chwaer frand gan ddefnyddio ei enw cofrestredig, the Dispute Resolution Ombudsman (DRO), i weithredu ochr yn ochr â’r Furniture Ombudsman ac i ddarparu ei wasanaethau mewn sectorau eraill y tu hwnt i fanwerthu a chelfi. Heddiw mae gan y Dispute Resolution Ombudsman a’r Furniture Ombudsman awdurdodaeth dros filoedd o fusnesau, masnachwyr sy’n gysylltiedig â chynllun Trusted Traders Which? a chwmnïau symud celfi sydd wedi’u cofrestru o dan Gynllun Cymeradwyaeth Cod Defnyddwyr y British Association of Removers.
2014: Sefydlu Bwrdd Newydd.
Yn 2014, sefydlwyd bwrdd newydd dan gadeiryddiaeth Stephen McPartland AS, a throsglwyddwyd y gwaith o lywodraethu’r Ombwdsmon i TFO Dispute Resolution Limited (a ail-enwyd yn ddiweddarach yn Dispute Resolution Ombudsman Limited).
Yn gweithredu fel sefydliad dielw, cafodd ei ymgorffori’n benodol at ddibenion gweithredu fel Ombwdsmon i hyrwyddo gwelliannau mewn safonau masnach, i ddiogelu defnyddwyr ac i ddarparu gwasanaethau cyngor a hyfforddiant.
2014: Sefydlu Bwrdd Newydd.
The Furniture Ombudsman
Drwy gydol gweddill y 2000au a’r tu hwnt, bu’r gwasanaeth newydd ei sefydlu o’r enw The Furniture Ombudsman (TFO) yn helpu i ddatrys miloedd o anghydfodau a thyfodd nifer y busnesau a oedd yn addo cefnogi’r sefydliad. Yn 2009, ailgyfansoddwyd y Cyngor a’r Panel Cynghori’n un Bwrdd Safonau Annibynnol, swyddogaeth sy’n parhau i gynnig goruchwyliaeth heddiw.
2007: Dod yn Ombwdsmon
Ar ôl i’w gylch gwaith ehangu, penderfynodd yr unigolion ar y Cyngor a’r Panel Cynghori yn 2007 y dylai Qualitas gymryd y camau angenrheidiol i ddod yn Ombwdsmon.
2007: Dod yn Ombwdsmon
2000au cynnar: Qualitas yn tyfu
Ar y cyd, cyfunodd y Cyngor a’r Panel Cynghori uwch gynrychiolwyr o fusnesau, cyrff yn y diwydiant, llywodraeth leol a grwpiau defnyddwyr, gan gynnwys Which? Erbyn canol y 2000au, roedd Qualitas wedi’i hen sefydlu ac wedi dod yn adnabyddus am ddylanwadu ar welliannau i safonau drwy gynnig cyngor a hyfforddiant i’r diwydiant.
Canol y 1990au: Llywodraethu
Bu Cyngor a Phanel Cynghori annibynnol yn helpu i oruchwylio a llywodraethu pan oedd y sefydliad yn gweithredu yn swyddfeydd y Furniture Industry Research Association. Rywbryd yn ystod y 1990au, roedd swyddogion wedi mynd at y corff hwnnw a’i annog i’w helpu nhw i ddarparu adnoddau ar ei gyfer.
Canol y 1990au: Llywodraethu
Cyflwyno’r Cynllun Diogelu Taliadau
Yng nghanol y 1990au, cafodd maes defnyddwyr ei adolygu unwaith eto gan y Swyddfa Masnachu Teg. Yn dilyn trafodaethau â’r diwydiant, daeth i’r casgliad, yn hytrach na chyflwyno mesurau deddfwriaethol, y dylai Cynllun Diogelu Taliadau gael ei gyflwyno gan Qualitas er mwyn diogelu defnyddwyr oedd yn prynu nwyddau drud.
1992: ffurfio Qualitas
Yn 1992, daeth y Swyddfa Masnachu Teg ynghyd â chydweithwyr o Safonau Masnach ac unigolion o sawl corff yn y diwydiant, at ei gilydd i sefydlu corff annibynnol, dielw yn Llundain o’r enw Qualitas. Byddai’r sefydliad hwn yn mynd ymlaen i ddarparu’n llwyddiannus wasanaethau cyngor, addysg a datrys cwynion i gannoedd o fusnesau a’u cwsmeriaid.
1992: ffurfio Qualitas
1986-1990: Y Llywodraeth yn galw am wella
Yn 1986 ac yn 1990, cyhoeddwyd adroddiadau gan y Swyddfa Masnachu Teg (Adran Anweinidogol y Llywodraeth) yn galw ar y diwydiant celfi i wella’r ffordd yr oedd yn trin ei gwsmeriaid. Cafwyd galw clir am weithredu gan gynnwys y gwelliannau y credai’r Llywodraeth y dylid eu cyflwyno yn lle deddfwriaeth.