Amdanom ni
Ein gweledigaeth
Ein gweledigaeth yw ysgogi hyder cwsmeriaid a datrys cwynion heb yr angen am ymgyfreitha costus. Nid amddiffynnwr defnyddwyr na chorff masnachu ydym ni. Rydym yn gweithredu’n annibynnol er mwyn sicrhau tegwch ym mhob achos.
Pwy ydym ni?
Rydym yn sefydliad dielw annibynnol sydd wedi’i gymeradwyo gan y Sefydliad Siartredig Safonau Masnach ac wedi’i gymeradwyo fel Aelod Llawn o Gymdeithas yr Ombwsdmyn.
Rydym yn cynnig gwasanaeth di-dâl ac arbenigol i ymchwilio i gwynion sydd heb eu datrys am ddarparwyr gwasanaethau sy’n cymryd rhan yn ein cynllun (megis cwmnïau trên).
Rydym hefyd yn cynorthwyo’r diwydiant rheilffyrdd i godi safonau a gwella gwasanaethau i gwsmeriaid.
Beth ydym ni’n ei wneud?
Rydym yn gwrando ar y ddwy ochr er mwyn gweld a allwn ddod o hyd i ateb y gall y ddwy ohonoch gytuno arno. Os nad yw hynny’n bosibl, mae gennym y pwerau i wneud penderfyniadau sy’n rhwymo darparwyr gwasanaethau – mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddynt gydymffurfio â’n penderfyniadau.
Gallwn hefyd wneud argymhellion i ddarparwyr gwasanaethau i wella’r ffordd y caiff eu gwasanaeth ei ddarparu, ac rydym yn cyhoeddi astudiaethau achos a data a all ddarparu dealltwriaeth o gwynion cyffredin a sut i godi safonau.
I gael gwybod mwy am ein proses a sut i ddechrau cwyn.