Teithiwr wedi’i adael ar y clwt
Y broblem
Cysylltodd y defnyddiwr â ni ar ôl iddi ddioddef oedi ar ei thaith o un o derfynfeydd Llundain i’w chyrchfan, oedd rhyw 2 awr o daith ar drên i ffwrdd. Roedd y trên wedi cael ei ganslo ar ôl rhan o’r daith oherwydd tarfu ar Brif Linell Arfordir Dwyrain Lloegr a’r Alban ac nid oedd dim staff ar gael i’w helpu felly teithiodd ar fws oedd yn rhedeg yn lle trên i’r orsaf nesaf.
Yno, am 8pm yn fras, siaradodd â’r staff y tu allan i’r orsaf a dywedwyd wrthi nad oedd unrhyw drenau’n mynd tua’r gogledd y noson honno. Cymerodd dacsi o’r orsaf i’w chartref, gan nad oedd ei lifft o’r orsaf roedd hi’n teithio iddi ar gael mwyach oherwydd ei bod mor hwyr.
Yr hawliad
Roedd y defnyddiwr yn gofyn am ad-dalu pris y tacsi, oedd wedi costio £90 iddi.
Yr ymateb
Ymatebodd y Darparwr Gwasanaeth Rheilffordd trwy gydnabod bod y defnyddiwr wedi cael gwybodaeth anghywir gan staff o gwmni trên arall oherwydd yr oedd gwasanaeth arall ar gael iddi a fyddai’n mynd â hi ymhellach i fyny’r llinell, er nad yr holl ffordd i’w chyrchfan wreiddiol. Cadarnhaodd y Darparwr Gwasanaeth Rheilffordd y darparwyd ad-daliad llawn i’r defnyddiwr am ei thocyn o dan yr addewid Ad-daliad am Oedi a’i fod wedi ymddiheuro iddi am yr oedi a ddioddefodd.
Ein gwerthusiad
Cydnabu’r Ombwdsmon Rheilffyrdd yr ymateb a roddwyd, ond hefyd cymerodd i ystyriaeth y ffaith nad oedd y trên y cyfeiriodd y Darparwr Gwasanaeth Rheilffordd ato i fod i adael tan tua 10.30pm. Roeddem yn deall bod y defnyddiwr yn teimlo’n agored i niwed wrth deithio ar ei phen ei hun, bod ganddi faterion o ran gofal plant i ymdrin â nhw gartref, a’i bod eisoes wedi dioddef cryn dipyn o oedi. Roedd wedi dibynnu ar wybodaeth a roddwyd iddi gan staff yr orsaf cyn penderfynu cymryd tacsi, a gostiodd £90 iddi.
Roeddem yn cydnabod cymhlethdod y sefyllfa lle bu oedi oherwydd problem ar y rhwydwaith. Fodd bynnag, edrychasom ar Siarter Teithwyr y Darparwr Gwasanaeth Rheilffordd, oedd yn cyfarwyddo defnyddwyr i ddibynnu ar wybodaeth gan staff gorsafoedd, heb nodi a allai defnyddwyr ddibynnu ar wybodaeth a gâi ei rhoi gan unrhyw gwmni trên. Felly daethom i’r casgliad nad oedd y defnyddiwr wedi bod yn afresymol wrth ddibynnu ar y wybodaeth hon, er y canfuwyd yn ddiweddarach bod y wybodaeth yn anghywir. Ar y sail hon, gwahoddasom y Darparwr Gwasanaeth Rheilffordd i gyflwyno cynnig mewn proses cyfryngu.
Y canlyniad
Cynigiodd £75 tuag at gost y tacsi. Barnasom fod hyn yn rhesymol gan fod y tacsi wedi cludo’r defnyddiwr yr holl ffordd adref (y tu hwnt i’r orsaf yn yr amserlen). Derbyniodd y defnyddiwr hyn yn y broses cyfryngu.
Argymhelliad: Argymhellodd yr Ombwdsmon i’r Darparwr Gwasanaeth Rheilffordd wneud newid i’w Gwestiynau Cyffredin i’w gwneud yn gliriach i ddefnyddwyr y dylen nhw, ar adegau pan fo tarfu, wirio gydag Ymholiadau’r Rheilffyrdd Cenedlaethol neu ddod o hyd i aelod o staff y cwmni ei hun er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf. Ers hynny mae’r Darparwr Gwasanaeth Rheilffordd wedi gwneud y newid hwnnw.