Croeso i wefan yr Ombwdsmon Rheilffyrdd

Mae’r Ombwdsmon Rheilffyrdd yn sefydliad dielw annibynnol. Rydym yn cynnig gwasanaeth di-dâl ac arbenigol i helpu i ddatrys cwynion gan gwsmeriaid sydd heb eu datrys am ddarparwyr gwasanaethau yn y diwydiant rheilffyrdd.

Ein gweledigaeth yw ysgogi hyder cwsmeriaid a darparu ein gwasanaeth yn deg er mwyn sicrhau’r canlyniad iawn ym mhob achos. Rydym hefyd yn cynorthwyo’r diwydiant rheilffyrdd i godi safonau.

Cael gwybod mwy amdanom ni

Os oes gennych gŵyn ynghylch darparwr gwasanaeth sy’n cymryd rhan yn ein cynllun nad ydych wedi gallu ei datrys gydag ef, mae’n bosibl y gallwn eich helpu chi.

I gael gwybod sut i ddechrau cwyn neu i fynd at gŵyn gyfredol, cliciwch ar y botwm ‘Cwyno’ isod.

Buddion ein gwasanaeth

Y GALLU I GAEL GWASANAETH DI-DÂL, ANNIBYNNOL AC ARBENIGOL

HYDER MEWN ASESIAD DI-DUEDD O’CH CWYN Y GALLWCH YMDDIRIED YNDDO

CANLYNIADAU TEG A THRYLOYW AC ASTUDIAETHAU ACHOS CYHOEDDEDIG

PENDERFYNIADAU SY’N RHWYMO DARPARWYR GWASANAETHAU

NID YW CWSMERIAID YN CAEL EU RHWYMO GAN EIN PENDERFYNIADAU AC MAEN NHW’N RHYDD I FYND AR ÔL CWYNION TRWY SIANEL ARALL

DEFNYDD O ADNODDAU AR-LEIN AM DDIM GAN GYNNWYS CANLLAWIAU DEFNYDDIOL AR EIN GWEFAN

© Hawlfraint - Dispute Resolution Ombudsman
Cyfeiriad cofrestredig: Richmond House, Walkern Road, Stevenage, Hertfordshire, SG1 3QP. Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr, Rhif Cwmni 08945616.