Pam fyddai arnoch angen ein help?

Hyd yn oed pan fo Darparwyr Gwasanaethau’n gwneud eu gorau, weithiau mae pethau’n mynd o chwith ac rydych yn anfodlon ar y gwasanaeth yr ydych yn ei gael. Os mai dyma’r sefyllfa, dylech bob amser gwyno wrth y Darparwr Gwasanaeth yn gyntaf a rhoi cyfle iddo ateb ac unioni’r sefyllfa.

Fodd bynnag, mae’n bosibl y byddwch eisiau cwyno wrthym ni:

  • os nad yw’n eich ateb;
  • os nad ydych yn fodlon ar ei ateb;
  • os nad ydych yn fodlon ar y ffordd mae wedi trin eich cwyn.